Tystysgrif mewn Astudiaethau Cwnsela

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein Tystysgrif mewn Astudiaethau Cwnsela ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd eisiau parhau â'u cynnydd o Sgiliau Cwnsela Lefel 2. Wedi'i lleoli ar ein Campws yn y Barri ar Heol Colcot, mae'r rhaglen hon yn parhau i ddatblygu sgiliau gwrando ymarferol disgyblion a hefyd yn cyflwyno nifer o ddamcaniaethau cwnsela. Gan astudio yn ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau penodol y coleg, mae'r cwrs hwn yn amlinellu'r arfer o oruchwyliaeth glinigol a gofynion gweithio mewn asiantaeth gwnsela.

Mae'r cymhwyster yn paratoi'r dysgwyr ar gyfer Lefel 4 mewn Cwnsela Therapiwtig ond bydd hefyd yn cadarnhau gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ar gyfer y rhai sydd eisiau gadael y rhaglen yn y pwynt hwn.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Bydd y myfyrwyr yn astudio sawl agwedd ar gwnsela, gan gynnwys:

  • Sgiliau cwnsela
  • Damcaniaethau cwnsela
  • Hunanymwybyddiaeth ac arfer adlewyrchol
  • Goruchwyliaeth gwnsela
  • Gweithio mewn asiantaeth gwnsela

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Ffi Arholiad : £226.00

Ffi Cwrs: £604.00

Gofynion mynediad

Tystysgrif mewn Sgiliau Cwnsela Lefel 2 neu gyfwerth. Mae profiad o weithio mewn rôl sy'n helpu mewn gwaith gofal/gwaith cefnogi neu nyrsio yn ddefnyddiol. Dylai ymgeiswyr fod yn 18 oed neu hŷn. Cyfweliad Llwyddiannus.

Amseroedd cwrs

Y Barri - 12:00 - 15:00 - Dydd Mercher
            - 18:00 - 20:30 - Dydd Iau
Caerdydd - 18:00 - 21:00 - Dydd Mawrth a dydd Mercher

Addysgu ac Asesu

Ar y rhaglen hon byddwch yn cael eich asesu drwy:

  • Cofnodion adlewyrchol wythnosol
  • Cyflwyniadau dosbarth
  • Aseiniadau goruchwylio
  • Asesiadau sgiliau sy'n cael eu tapio
  • Portffolios terfynol

Arholiadau allanol Bydd dulliau dysgu amrywiol yn cael eu defnyddio, gan gynnwys chwarae rôl.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Mwy

Fideos

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

Ar ôl cwblhau'r cymhwyster yma, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch mewn Cwnsela. Hefyd rydyn ni'n cynnig y Diploma Lefel 4 mewn Cwnsela Therapiwtig. Edrychwch ar y daflen ffeithiau am ragor o wybodaeth am y rhaglen yma.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ