Mae'r Dystysgrif Lefel 2 yma mewn Sgiliau Cwnsela (CPCAB) yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau gwrando neu ddechrau ar hyfforddiant cwnsela. Mae'r rhaglen hon yn rhyngweithiol a hefyd yn brofiadol, a bydd disgwyl i'r myfyrwyr ysgrifennu cofnod wythnosol adlewyrchol i gofnodi eu datblygiad personol, eu sgiliau a'u dealltwriaeth o helpu ar Lefel 2.
Ar y cwrs yma byddwch yn astudio:
Bydd dulliau addysgu amrywiol yn cael eu defnyddio, gan gynnwys chwarae rôl. Bydd yr asesu ar ffurf cofnodion adlewyrchol wythnosol, 3 aseiniad ac arholiad allanol.
Ffi Cwrs: £593.00
Ffi Arholiad : £182.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £45.00
TGAU Gradd A*-C mewn Saesneg Iaith neu Lefel 2 mewn Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu - Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ymgymryd ag asesiad sgiliau ar-lein. Mae’r gallu i ysgrifennu a chyflwyno cyfnodolyn myfyriol 700 gair ar-lein, a chwblhau asesiadau ysgrifenedig yn hanfodol. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu hŷn.
Y Barri: 09:30 - 12:30 (Dydd Mercher)
18:00 - 20:30 (Dydd Iau)
Caerdydd: 18:00 - 21:00 (Dydd Mawrth a dydd Mercher)
Addysgir y cwrs drwy ddarlithoedd, trafodaethau, gwaith grŵp a sesiynau chwarae rôl. Bydd yr unedau canlynol yn cael eu hastudio:
1. Defnyddio sgiliau cwnsela mewn modd moesegol a Diogel
2. Sefydlu a chynnal ffiniau’r rôl gynorthwyol
3. Arddangos empathi yn y gwaith fel cynorthwyydd
4. Canolbwyntio ar anghenion a phryderon yr unigolyn sydd angen cymorth
5. Defnyddio hunanymwybyddiaeth wrth ymgymryd â gwaith cynorthwyo
6. Defnyddio ystod o ddulliau i hwyluso wrth gynorthwyo
7. Defnyddio adborth a myfyrdod i ehangu sgiliau cwnsela
Asesir y cwrs drwy ddyddlyfrau myfyriol wythnosol 700 gair.
Tri asesiad 1,000 o eiriau, a chreu portffolio ar-lein erbyn diwedd y cwrs.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae llwyddo i gwblhau Lefel 2 yn arwain at Gwrs Tystysgrif Astudiaethau Cwnsela Lefel 3 yn seiliedig ar eirda boddhaol gan diwtor.