Mae’r diwydiant adeiladu yn cyflogi tua 15% o fenywod yn y DU, ac mae’r rhan fwyaf o’r rolau hyn yn rhai swyddfa neu weinyddol. Mae angen menywod ar y diwydiant adeiladu oherwydd bod y diwydiant yn wynebu prinder sgiliau. Mae menywod yn dod ag ystod eang o sgiliau sydd o fudd i gyflogwyr ac yn cyfoethogi’r diwydiant adeiladu. Dewch i ymuno â'n cwrs Menywod yn y Maes Adeiladu ar gyfer dechreuwyr a dysgu'r sgiliau sy'n gysylltiedig â gwahanol grefftau.
Bydd y cwrs hwn yn darparu cyflwyniad ar y canlynol i ferched:
Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00
Ffi Cwrs: £20.00
Mae hwn yn gwrs i fenywod yn unig. Nid oes angen unrhyw asesiadau ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Byddai angen i fyfyrwyr ddarparu eu hesgidiau diogelwch a'u dillad gwaith eu hunain.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Wedi i mi adael yr ysgol cefais swydd yn y maes manwerthu, ac fe sylwais yn fuan wedyn nad oedd y swydd honno yn addas i mi. Rwyf wedi bod yn berson ymarferol erioed ac yn mwynhau gweithio gyda’m dwylo, felly roedd y cwrs Gwaith Coed yn teimlo’n llawer mwy addas ar fy nghyfer. Rwyf yn ymwybodol fod dysgu’r grefft hon o fantais i mi at y dyfodol o ran cyfleoedd cyflogaeth. Gan na ddes i’n syth o’r ysgol, roedd fy llwybr i’r cwrs ychydig yn wahanol i’r arfer, ond rydw i wastad wedi teimlo fy mod i’n cael fy nghynnwys a’m cefnogi trwy gydol y cwrs. Mae’r tiwtoriaid yn anhygoel a’r cyfleusterau’n dda iawn yma. Y flwyddyn nesaf, rwyf yn edrych ar sicrhau prentisiaeth yn lleol ac i symud ymlaen i Lefel 3.
Gall fyfyrwyr symud ymlaen i gwrs cynnal a chadw DIY ar ôl cwblhau’r cwrs hwn.