Mae’r cwrs byr hwn yn darparu ystyriaeth fanwl o’r heriau amgylcheddol presennol a’u cysylltiad â SUDS yng Nghymru. Bydd cyfranogwyr yn ennill dealltwriaeth gynhwysfawr o’r materion amgylcheddol sy’n dylanwadu ar reoli dŵr a datblygu cynaliadwy, ynghyd â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddio sy’n arwain y broses o roi SUDS ar waith. Mae’r cwrs yn ymdrin â phrif egwyddorion dylunio a rheoli SUDS. Mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu ar gyfer pob gweithiwr a chyflogwr yn y sector amgylchedd adeiledig ac adeiladwaith. Ar gyfer unrhyw swydd, o’r awdurdodau lleol a datblygwr, i gontractwyr ac isgontractwyr sy’n gosod ac yn cynnal a chadw seilwaith SUDS.
1. Adnabod ac Esbonio Materion Amgylcheddol Presennol: Magu dealltwriaeth o’r heriau amgylcheddol dybryd, yn benodol y rheiny sy’n ymwneud â rheoli dŵr, llifogydd, a newid hinsawdd, a’u heffaith ar leoliadau trefol a gwledig.
2. Deall Fframwaith Cyfreithiol SUDS yng Nghymru: Edrych ar y prif ddeddfwriaethau, polisïau, a chanllawiau sy’n llywodraethu’r broses o roi SUDS ar waith yng Nghymru, gan gynnwys gofynion cynllunio a rheoleiddio.
3. Adnabod Pileri’r SUDS: Dysgu am yr egwyddorion craidd sy’n sail i SUDS, gan gynnwys y pedwar piler cynaliadwyedd: swm dŵr (atal llifogydd), ansawdd dŵr (llygredd), amwynder (cysur dynol), a bioamrywiaeth, a sut mae’r egwyddorion hyn yn sail i ddatrysiadau draenio llwyddiannus.
4. Archwilio Prif Nodweddion SUDS: Astudio’r gwahanol fathau o nodweddion SUDS, megis palmentydd athraidd, basnau crynhoi, a thoeau gwyrdd, ac asesu eu manteision a’u hanfanteision mewn cyd-destunau gwahanol.
5. Asesu addasrwydd nodweddion SUDS: adnabod y materion Cynaliadwyedd mewn sefyllfa brosiect, ac asesu addasrwydd y nodweddion SUDS i ymdrin â phob piler cynaliadwyedd.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd gan gyfranogwyr y wybodaeth a’r sgiliau i gymhwyso egwyddorion SUDS i sefyllfaoedd damcaniaethol ac ymarferol, yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ar ddatrysiadau rheoli dŵr, yn unol â heriau amgylcheddol presennol a fframweithiau cyfreithiol.
Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00
Ffi Cwrs: £20.00
Nid oes angen profiad mewn adeiladwaith, byddwn yn mesur eich brwdfrydedd ac ymrwymiad yn ystod y cyfweliad
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Diploma Estynedig L3 mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig neu HNC mewn Rheoli Adeiladwaith.