HND Peirianneg Sifil
Ynghylch y cwrs hwn
Bydd y cwrs HNC mewn Peirianneg Sifil yn rhoi dealltwriaeth lefel uchel i chi o ddyluniad, swyddogaeth, adeiladwaith a gofynion hanfodol adeiladau a strwythurau o bob math.
Mae’r Dystysgrif Genedlaethol Uwch yn gymhwyster uchel iawn ei barch yn y sector adeiladu. Mae'r cwrs Peirianneg Sifil wedi'i gynllunio i sicrhau eich bod yn gyflogadwy iawn ac yn ychwanegiad gwerthfawr at sefydliadau o fewn y diwydiant. Mae'r meysydd y byddwch yn eu hastudio yn cynnwys yr holl bynciau angenrheidiol i gwrdd â disgwyliadau cyflogwyr, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y sector heriol a gwerth chweil hwn.
Cynlluniwyd y cwrs i wella eich sgiliau seiliedig ar waith gyda'r bwriad o weithio tuag at swydd Uwch Dechnegydd.
Byddwch yn datblygu gwerthfawrogiad o egwyddorion peirianneg, TG a sgiliau personol, a'r gallu i'w cymhwyso trwy gyfrwng gwaith dylunio a phrosiect.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio’r 8 modiwl canlynol:
Uned 1: Prosiect Unigol (wedi’i osod gan y sefydliad dyfarnu)
Uned 3: Gwyddoniaeth a Deunyddiau
Uned 4: Yr Amgylchedd Adeiladu
Uned 7: Tirfesur, Mesur a Gosod Allan
Uned 8: Mathemateg ar gyfer Adeiladu
Uned 15: Egwyddorion Ynni Amgen
Uned 17: Technoleg Peirianneg Sifil
Uned 19: Egwyddorion Dylunio Strwythurol
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Dysgu: £1,920.00
Addysgu ac asesu
Bydd y rhaglen yn cael ei haddysgu gan ddefnyddio cyfuniad o ddarlithoedd, siaradwyr gwadd a thiwtorialau. Bydd y rhaglen yn cael ei hasesu drwy ddefnyddio cyfuniad o aseiniadau, asesiadau ymarferol ac arholiadau.
Gofynion mynediad
48 Pwynt Tariff UCAS o’r llwybrau a restrir isod: • Cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig (neu bwnc perthnasol) • Proffil TAG Lefel Uwch sy’n arddangos perfformiad cryf mewn pwnc perthnasol neu berfformiad digonol mewn o leiaf 2 bwnc TAG; mae’r proffil hwn yn debygol o fod wedi’i ategu gan TGAU graddau A* i C a/neu 9 i 4 (neu gyfwerth) mewn pynciau fel mathemateg a Saesneg • Cymwysterau Lefel 3 perthnasol eraill • Mynediad at Ddiploma Addysg Uwch a ddyfarnwyd gan sefydliad addysg bellach cymeradwy • Cyfwerth rhyngwladol â’r uchod. Ymgeiswyr hŷn (21 oed a hŷn): Os nad ydych yn meddu ar y cymwysterau a restrir, ond yn meddu ar brofiad gwaith perthnasol, mae croeso i chi wneud cais. Bydd eich cais yn cael ei ystyried ar sail unigol. CDP/Offer sydd ei angen: Gliniadur, Esgidiau Diogelwch, Llyfr Nodiadau, Deunydd Ysgrifennu, Cof Bach.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Ar ôl cwblhau’r cwrs HNC, gall dysgwyr fynd ymlaen i astudio HND mewn Peirianneg Sifil neu fynd yn uniongyrchol i gyflogaeth yn y sector adeiladu.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu