Cyrsiau Hyfforddi CITB SSSTS

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Bydd y cwrs SSSTS 2 ddiwrnod yn darparu Goruchwylwyr gyda dealltwriaeth o faterion iechyd, diogelwch, lles ac amgylcheddol, yn ogysystal â'r cyfrifoldebau cyfreithiol sydd ganddynt yn berthnasol i'w gweithgareddau gwaith.
Nod y cwrs yw cefnogi'r dysgwr i:
Oruchwylio rôl iechyd a diogelwch ar y safle, yn unol â'r ddarpariaeth gyfreithiol bresennol yng nghyd-destun rôl y goruchwyliwr.
Datblygu dealltwriaeth ddigonol o'r cyfrifoldebau ar gyfer iechyd, diogelwch a lles gweithwyr eraill ar y safle.
Cydnabod bod safle diogel yn safle effeithlon, economaidd, cynhyrchiol a chyfeillgar i'r amgylchedd

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Modiwl 1 - Cyfreithiol a Rheoli                    

Modiwl 2 - Iechyd a Lles              

Modiwl 3 - Diogelwch Cyffredinol        

Modiwl 4 - Gweithgareddau Risg Uchel    

Modiwl 5 - Ymarfer yr Amgylchedd - Paratoi a chyflwyno sgwrs pecyn lleoliad penodol 

Gofynion mynediad

Ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Dylai’r cynrychiolwyr fod â rôl Rheolwr Safle, neu dylent fod ar fin cael rôl o’r fath. Rhaid i’r cynrychiolwyr allu ysgrifennu a siarad Saesneg yn ddeheuig.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

12 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CPCC3PX1
L3

Cymhwyster

CITB Site Supervision Safety Training Scheme (SSSTS) (PLA)

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£30,000

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Mae'r CITB SSSTS yn darparu dilyniant naturiol ar gyfer y rhai sy'n dymuno mynychu'r Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle (SMSTS) yn y dyfodol.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

CCTC,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE