Mae’r cwrs hwn ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant adeiladu, a byddai’n helpu i’ch paratoi chi at weithio yn sector gwaith coed a saernïaeth y diwydiant. Mae’r cwrs hwn yn gyfle delfrydol i feithrin sgiliau ymarferol sy’n ofynnol gan rai cyflogwyr yn y diwydiant, wrth roi gwybodaeth sylfaenol i chi.
Mae angen i fyfyrwyr gyflawni 39 credyd ar gyfer y diploma. Mae credydau yn dod o’r grŵp gorfodol isod:
• Iechyd a Diogelwch
• Egwyddorion adeiladu, adeiledd a chyfathrebu
• Cynnal a chadw a defnyddio offer pŵer cludadwy gwaith coed a saernïaeth
• Cynhyrchu cymalau gwaith coed
• Paratoi a defnyddio offer pŵer cludadwy gwaith coed a saernïaeth
Dulliau addysgu ac asesu: Bydd gan y cymhwyster nifer o unedau ymarferol a damcaniaethol a gaiff eu cyflwyno yn yr ystafell ddosbarth a’r gweithdy. Bydd dulliau asesu yn cynnwys prosiectau ymarferol a phrofion uned ar-lein.
Mae angen i fyfyrwyr fod o dan 19 oed.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Rwyf wedi bod yn berson ymarferol erioed ac yn mwynhau gweithio gyda’m dwylo, felly roedd y cwrs Gwaith Coed yn teimlo’n llawer mwy addas ar fy nghyfer. Rwyf yn ymwybodol fod dysgu’r grefft hon o fantais i mi at y dyfodol o ran cyfleoedd cyflogaeth. Mae’r tiwtoriaid yn anhygoel a’r cyfleusterau’n dda iawn yma!
Ar ôl cwblhau’r Diploma Lefel 1 mewn Gwaith Coed a Saernïaeth, bydd modd i fyfyrwyr symud ymlaen i astudio cwrs sylfaenol adeiladu L2. Mewn rhai achosion, gall myfyrwyr gael y cyfle i astudio cymhwyster dilyniant mewn gwaith coed.