Eisiau dilyn gyrfa yn y sector adeiladu? Rydych wedi dod i'r lle cywir! Mae’r cwrs Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 hwn mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig yn bwnc delfrydol i fyfyrwyr sydd eisiau dilyn gyrfa fel Pensaer, Syrfëwr Adeiladau, Rheolwr Adeiladu, Peiriannydd Sifil, Syrfëwr Meintiau neu ddilyn unrhyw lwybr gyrfa proffesiynol arall yn y sector. Mae'r diwydiant adeiladu yn ymdrin ag ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth, a bydd y rhaglen hon yn eich caniatáu chi i ennill y wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen i droedio i mewn i'r sector. Byddwch hefyd yn ennill cymhwyster cydnabyddedig a fydd yn gwasanaethu fel man cychwyn i mewn i addysg uwch.
Dyma'r flwyddyn gyntaf o raglen 2 flynedd. Mae'r cwrs hwn yn gyfwerth â 1.5 Safon Uwch y flwyddyn, ac wedi cwblhau'r rhaglen 2 flynedd, bydd gan ddysgwyr gymhwyster sy'n gyfwerth â 3 gradd Safon Uwch a phwyntiau UCAS digonol i fynd ymlaen i'r Brifysgol.
Bydd Modiwlau Craidd ac Unedau Arbenigol yn cynnwys:
Yn ogystal, mae'n ofynnol i ddysgwyr gael eu hesgidiau diogelwch eu hunain cyn dechrau'r cwrs. Gellir prynu'r esgidiau gan unrhyw fanwerthwr.
4 TGAU Gradd A* - C. Mae gofyn i fyfyrwyr brynu esgidiau diogelwch eu hunain. CDP/Offer sydd ei angen i astudio - Esgidiau diogelwch, dillad gwaith neu oferôls i newid iddynt ar gyfer sesiynau ymarferol. Byddai myfyrwyr hefyd yn elwa o gael y defnydd o liniadur neu ddyfais.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn gall myfyrwyr symud ymlaen i’n llwybrau HNC / HND neu i brifysgol i gwblhau gradd yn ôl eu llwybr CBE dewisol.