Mae’r Wobr Lefel 1 hon mewn gosod brics yn gwrs blaenllaw ar gyfer unigolion sy’n chwilio am newid mewn gyrfa. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddatblygu rhai o'r sgiliau addas ar gyfer gweithio fel gosodwr brics yn y diwydiant adeiladu.
Bydd Dyfarniad Lefel 1 mewn gwaith brics yn helpu i ddatblygu’r sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer plastro bwrdd a sgimio. Enghraifft o'r unedau dan sylw yw:
Asesir y cymhwyster hwn drwy asesiadau ymarferol ac asesiad theori ar gyfer yr uned Iechyd a Diogelwch.
Ar ôl cwblhau’r Dyfarniad Lefel 1, gall myfyrwyr symud ymlaen i’r Cymwysterau Sylfaen Newydd y bwriedir eu cyflwyno ym mis Medi.
Yn ogystal, mae'n ofynnol i ddysgwyr gael eu hesgidiau diogelwch eu hunain cyn dechrau'r cwrs. Gellir prynu'r esgidiau gan unrhyw fanwerthwr.
Ffi Arholiad : £84.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00
Ffi Cwrs: £56.00
Nid oes angen profiad mewn adeiladwaith, byddwn yn mesur eich brwdfrydedd ac ymrwymiad yn ystod y cyfweliad
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Sbardunodd fy niddordeb mewn cymryd rhan yn y cwrs hwn pan wnaeth rhywun rwy’n ei adnabod roi gwybod imi fod CCAF yn cynnig dosbarth addysg i oedolion, un noson yr wythnos, mewn gwaith brics.
Roedd y ffordd y darparwyd y cwrs (ar nosweithiau) yn berffaith ar gyfer fy mhatrwm gweithio. Yn gweithio mewn swydd gonfensiynol feichus, nosweithiau oedd yr unig ddewis i mi, felly, roedd y cwrs hwn yn berffaith.
Hyd yn hyn, mae’r modiwlau rwyf wedi eu cwblhau yn cynnwys gwaith ‘brics wyneb’, gwaith ‘brics blociau’, gwaith pwyntio a mecaneg awyru’r mortar yn barhaus. Ar ôl pob sesiwn, mae’r sianel ar-lein bwrpasol (YouTube) yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr adolygu cynnwys y sesiwn, yn ogystal â chael golwg ar beth sydd gan sesiynau’r dyfodol i’w cynnig. Mewn amser byr iawn, mae gennyf lawer mwy o hyder i ymgymryd â thasgau bychain o amgylch fy eiddo. Mae’r cydbwysedd rhwng gwaith ymarferol a theori yn berffaith ac yn addas ar gyfer fy null dysgu.
Mae’r offer a ddarperir gan yr adran o ansawdd anhygoel ac ar gael yn syth. Mae’r mortar yn barod ar ddechrau pob sesiwn, ac mae’r wers yn dechrau’n brydlon.
O ran addysgu, rrhaid canmol y Darlithydd Gwaith Brics (Mr Adam James). Mae Adam bob amser yn gyfeillgar ac yn amyneddgar gyda’r rhai sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol (mae hynny’n cynnwys fi!!). Mae’r adborth a ddarperir bob amser yn adeiladol, byth yn negyddol. Mae Adam wedi mynd y filltir ychwanegol i sicrhau bod llif y cwrs ar safon dderbyniol i’r grŵp ehangach ac nid yw fyth yn gadael unrhyw fyfyriwr ar ôl. Rwy’n teimlo bod profiad Adam mewn cyd-destun diwydiannol yn berffaith i leoliad hyfforddiant, sy’n ei wneud yn ddarlithydd hynod o effeithiol.
Rwy’n argymell y cwrs hwn i unrhyw un sy’n ystyried gwneud rhywbeth newydd. O brosiectau bach yn y cartref i waith sylfaenol Gwaith Brics, byddwn yn argymell y cwrs hwn i bawb.
Simon Phillips
Myfyriwr gosod brics lefel 1 rhan amser.
Caiff y sesiynau eu cynnal mewn ffordd sy’n hawdd eu deall, gyda digon o gyfleoedd i ofyn am help a chyngor a llawer o anogaeth gan staff addysgu. Mae’r cyfle i gwblhau tasgau adeiladau o’r dechrau wedi rhoi digon o brofiad ymarferol i ni, sy’n amlwg wedi ein helpu i ddysgu mor gyflym.
Rwyf wedi dysgu sut i adeiladu wal frics, wal brisbloc, a wal gornel, sy’n wych.
Rwyf wedi mwynhau’r cwrs yn fawr iawn.
Gavin Black
Myfyriwr gosod brics lefel 1 rhan amser.