Gosod brics

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r Wobr Lefel 1 hon mewn gosod brics yn gwrs blaenllaw ar gyfer unigolion sy’n chwilio am newid mewn gyrfa. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddatblygu rhai o'r sgiliau addas ar gyfer gweithio fel gosodwr brics yn y diwydiant adeiladu. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd Dyfarniad Lefel 1 mewn gwaith brics yn helpu i ddatblygu’r sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer plastro bwrdd a sgimio. Enghraifft o'r unedau dan sylw yw:

  • Iechyd a Diogelwch mewn Adeiladu
  • Adeiladu waliau hanner-bric
  • Adeiladu waliau bloc

Asesir y cymhwyster hwn drwy asesiadau ymarferol ac asesiad theori ar gyfer yr uned Iechyd a Diogelwch.

Ar ôl cwblhau’r Dyfarniad Lefel 1, gall myfyrwyr symud ymlaen i’r Cymwysterau Sylfaen Newydd y bwriedir eu cyflwyno ym mis Medi.

Yn ogystal, mae'n ofynnol i ddysgwyr gael eu hesgidiau diogelwch eu hunain cyn dechrau'r cwrs. Gellir prynu'r esgidiau gan unrhyw fanwerthwr.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Gofynion mynediad

Nid oes angen profiad mewn adeiladwaith, byddwn yn mesur eich brwdfrydedd ac ymrwymiad yn ystod y cyfweliad

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£30,000

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

CCTC,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ