Gwaith brics (Paratoi)

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu’r holl sgiliau sylfaenol angenrheidiol i ddod yn Osodwr Brics. Fel rhan o'r hyfforddiant, byddwch yn cael eich cyflwyno i arferion iechyd a diogelwch cysylltiedig â’r gweithle, gwaith paratoi, camau cychwynnol prosesau cynllunio adeiladu, sut i gyfrifo deunyddiau a ddefnyddiwyd yn y broses gosod brics a sut i adeiladu gwahanol fathau o waliau.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd y cwrs yn cynnwys cyflwyniad i'r pynciau canlynol:

  • Iechyd a Diogelwch
  • Paratoi Cwrs Addas i Leithder
  • sgiliau gosod blociau,
  • sgiliau gosod brics ac adeiladu wal geudod. 

Byddwch yn cwblhau nifer o brosiectau ac asesiadau ymarferol. Mae asesiadau diwedd uned hefyd, a gynhelir ar-lein. Bydd y prosiectau ymarferol y byddwch yn eu cwblhau fel rhan o’r hyfforddiant a'r asesiad yn eich paratoi ar gyfer sefyllfaoedd gwaith go iawn.

Gofynion mynediad

Rhaid i ymgeiswyr fod â thri TGAU A* - G gan gynnwys mewn Mathemateg a Saesneg. Mae angen i’r ymgeiswyr fynychu noson wybodaeth hefyd. PPE / Offer sydd ei angen i astudio: esgidiau diogelwch, dillad gwaith neu oferôls i newid ar gyfer sesiynau ymarferol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£30,000

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall myfyrwyr symud ymlaen i gwrs sylfaen Gwaith Brics.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

CCTC,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ