DyfarniadLefel3 ILM – Rheolwr Perfformiad

L3 Lefel 3
Rhan Amser
21 Ionawr 2025 — 25 Mawrth 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae Dyfarniad ILM Lefel 3 yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sydd wedi'i gynllunio ar gyfer arweinwyr tîm a rheolwyr llinell gyntaf neu'r sawl sy'n dymuno cael rôl hyfforddi yn eu sefydliad.  Mae dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o hyfforddi i wella eu gallu a'u hyder mewn hyfforddi. 

Bydd y sesiwn ryngweithio hon yn datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i asesu perfformiad yn effeithiol a darparu adborth i wella perfformiad. Mae'r unedau wedi'u cynllunio i ddarparu dealltwriaeth gynhwysfawr o Reoli Perfformiad a sut i ddatblygu perthnasoedd o fewn y gweithle. 

Diddordeb? Cliciwch ar yr is-benawdau isod am ragor o wybodaeth! 

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Ffi Cwrs: £725.00

Beth fyddwch chi’n ei astudio

I ennill eich cymhwyster Dyfarniad ILM Lefel 3, bydd gofyn i chi fynychu 2x o ddosbarthiadau gorfodol wyneb yn wyneb, 1x diwrnod tiwtorial ar-lein a hunan-astudio i ysgrifennu 2x Aseiniad Uned (tua 1200 gair yr aseiniad) i derfynau amser penodol. 

  • Diwrnod 1: 21ain Ionawr 2025
  • Diwrnod 2: 25ain Chwefror 2025
  • Diwrnod 3: 25ain Mawrth 2025

Tiwtorial i'w drefnu'n uniongyrchol rhyngoch chi a'ch Tiwtor ILM unwaith y bydd y cwrs wedi dechrau. 

Unedau a gwmpesir yn y cymhwyster hwn: 

  • Uned 325: Deall Rheoli Perfformiad
  • Uned 334: Deall a Datblygu Perthnasoedd yn y Gweithle

Unwaith y byddwch wedi llwyddo, byddwch yn derbyn tystysgrif a gydnabyddir yn genedlaethol a bathodyn achrediad digidol. 

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

21 Ionawr 2025

Dyddiad gorffen

25 Mawrth 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CSILM3PFM
L3

Cymhwyster

City & Guilds Dyfarniad Lefel 3 mewn Arwain a Rheoli

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE