Dyfarniad Lefel 2 ILM mewn Arweinyddiaeth a Sgiliau Tîm

L2 Lefel 2
Rhan Amser
10 Hydref 2024 — 14 Tachwedd 2024
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

P’un a ydych am ddatblygu eich hun yn Aelod Tîm gwerthfawr, yn trawsnewid i rôl Arweinydd Tîm neu eisoes mewn rôl Arweinydd Tîm gweithredol, bydd y cwrs hwn yn rhoi hwb i’ch hyder wrth gefnogi’r tîm ehangach. 

Mae Dyfarniad ILM Lefel 2 yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y sawl sydd am ennill y sgiliau arwain a rheoli craidd. 

Diddordeb? Cliciwch ar yr is-benawdau isod am ragor o wybodaeth! 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

I ennill eich cymhwyster Dyfarniad ILM Lefel 2, bydd gofyn i chi fynychu 2x o ddosbarthiadau dydd gorfodol wyneb yn wyneb, 1x  Tiwtorial ar-lein yn ogystal â Hunan-Astudio i ysgrifennu 2x Aseiniad Uned (tua 1200 gair yr aseiniad) i derfynau amser penodol. 

  • Diwrnod 1: 10fed Hydref 2024 
  • Diwrnod 2: 14eg Tachwedd 2024 

Tiwtorial i'w drefnu'n uniongyrchol rhyngoch chi a'ch Tiwtor ILM unwaith y bydd y cwrs wedi dechrau. 

Unedau a gwmpesir yn y cymhwyster hwn: 

  • Uned 250: Datblygu Eich Hun fel Arweinydd Tîm 
  • Uned 268: Arwain Eich Tîm Gwaith 

Unwaith y byddwch wedi llwyddo, byddwch yn derbyn tystysgrif a bathodyn achrediad digidol. 

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Ffi Cwrs: £615.00

Gofynion mynediad

Rhaid talu Ffi y Cwrs a Chofrestru wrth gofrestru. 
I fod yn gymwys ar gyfer y cymhwyster hwn, rhaid i chi:

  • fod mewn swydd mewn rôl Aelod tîm, Goruchwyliwr neu Arweinydd Tîm (oherwydd natur adfyfyriol aseiniadau'r cymhwyster).
  • lanlwytho Datganiad Personol sy'n 100 gair o leiaf wrth wneud cais i amlinellu eich diddordeb mewn ennill y cymhwyster hwn.
  • lanlwytho tystiolaeth o'ch cymhwyster uchaf hyd yma ee TGAU neu Dystysgrif Gradd

Bydd pob cais, datganiad personol a thystiolaeth cymwysterau yn cael eu hasesu gan ein Tiwtoriaid Cwrs. Bydd y tîm wedyn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich addasrwydd cyffredinol ar gyfer y lefel hon o gymhwyster ILM. 

Sylwch na allwn brosesu ceisiadau heb Ddatganiad Personol! 

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

10 Hydref 2024

Dyddiad gorffen

14 Tachwedd 2024

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CSILM2TS
L2

Cymhwyster

City & Guilds Dyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau Arwain a Thîm

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

O'r cwrs hwn gallwch symud ymlaen i Ddyfarniadau ILM Lefel 3.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE