CIPD Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl

L5 Lefel 5
Rhan Amser
18 Medi 2025 — 31 Mawrth 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Dewch yn Arbenigwr Rheoli Pobl gyda Chanolfan Blatinwm CIPD!

Mae’r cymhwyster gwerthfawr iawn hwn wedi ei fwriadu i weithwyr proffesiynol pobl sy’n gweithio ar lefel weithredol, yn ogystal â’r rhai sydd â’r nod o gyrraedd y math yma o swydd. Mae’n gyfwerth ag astudiaeth israddedig gyda dosbarthiadau wythnosol (yn ystod y tymor yn unig), am 18 mis. 

Cewch gyfnewid gwybodaeth a dysgu gyda grŵp o weithwyr proffesiynol o’r un anian mewn lleoliad wyneb yn wyneb. Ewch ati i wneud gwahaniaeth go iawn yn eich sefydliad, bydd y cwrs yn codi eich proffil ac yn darparu cyfleoedd newydd i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno drwy sesiynau wedi eu hwyluso, dysgu strwythuredig a chymorth un-i-un yn ein Campws Canol y Ddinas bob dydd Iau (yn ystod y tymor yn unig) o 9.30am - 2.30pm, am 18 mis. 

Mae’r cwrs a’r cymhwyster wedi’u seilio ar y Map Proffesiwn CIPD sy’n gosod y meincnod rhyngwladol ar gyfer gweithwyr proffesiynol pobl, gan gyfuno cyfres o werthoedd craidd, gwybodaeth ac ymddygiadau sy’n arwain gweithwyr proffesiynol pobl wrth iddynt wneud penderfyniadau a gweithredu.

Bydd y cwrs yn cyfuno modelau a damcaniaethau allweddol, ynghyd ag astudiaethau achos go iawn ac arfer orau sefydliadol.

Cynnwys ac Asesiad: 

I sicrhau'r cymhwyster hwn, bydd gofyn i chi ysgrifennu a chyflwyno aseiniadau uned i derfynau amser penodol (tua 4000 gair i bob asesiad). Mae yna 7 uned gyda’i gilydd: 

3 uned graidd

  • Perfformiad a diwylliant sefydliadol mewn ymarfer
  • Ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
  • Ymddygiad proffesiynol a gwerthfawrogi pobl 

3 uned arbenigol

  • Rheoli talent a chynllunio gweithlu
  • Gwobrwyo perfformiad a chyfraniad
  • Rheoli cyflogaeth

1 uned ychwanegol

  • Cyfraith cyflogaeth arbenigol 


Aelodaeth CIPD:

Bydd pob myfyriwr angen Aelodaeth CIPD gweithredol drwy gydol cyfnod eu cymhwyster. Byddwn yn eich gwahodd chi i gofrestru eich Aelodaeth wrth i chi gofrestru. 

Addysgu ac asesu

Bydd y cwrs yn cael ei ddarparu drwy ddysgu wyneb yn wyneb, yn y dosbarth, bob wythnos. 

I ennill y cymhwyster hwn, rhaid cyflwyno aseiniadau ar gyfer pob uned.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £154.00

Ffi Cofrestru: £45.00

Ffi Cwrs: £2,791.00

Gofynion mynediad

Rydych yn gymwys am y cwrs hwn os ydych yn:

  • 19 oed neu hŷn - ddim mewn addysg llawn amser
  • yn gallu mynychu’r gweithdai ar bob dyddiad
  • yn meddu ar A* - C mewn TGAU Saesneg neu gyfwerth neu uwch
  • yn gobeithio datblygu neu ddechrau eich gyrfa mewn Addysgu a Hyfforddi oedolion ar draws ystod eang o sefydliadau

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

18 Medi 2025

Dyddiad gorffen

31 Mawrth 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

6 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CSCIPD5PM
L5

Cymhwyster

CIPD Level 5 Associate Diploma in People Management
CIPD Platinum Logo

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Bydd y cymhwyster hwn yn eich darparu â’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sy’n angenrheidiol i ddatblygu yn y maes Dysgu a Datblygu. Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, efallai y byddwch yn dewis parhau i astudio cymhwyster Lefel 7 CIPD.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE