Mae’r Diploma Cyswllt Lefel 5 hwn mewn Datblygu a Dysgu Sefydliadol ar gyfer gweithwyr proffesiynol Dysgu a Datblygu sy’n gweithio ar lefel weithredol ar hyn o bryd, neu i’r rhai sy’n gobeithio gwneud hynny.
Caiff y cwrs ei astudio dros gyfnod o 18 mis a chaiff ei gyflwyno drwy sesiynau wyneb yn wyneb bob dydd Iau ar y safle yn ein Campws Canol y Ddinas o 9.30am tan 2.30pm (yn ystod y tymor yn unig).
Mae’r cymhwyster hwn hefyd ar gael drwy ein Llwybr Prentisiaeth, sy’n cynnig y cyfle i ddysgwyr ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle wrth astudio’r cymhwyster CIPD.
Cynnwys ac Asesiad:
I gyflawni’r cymhwyster hwn, byddwch yn gweithio drwy gyfres o aseiniadau uned a bydd gan bob un dyddiad ac amser cyflwyno penodedig.
Bwriad yr aseiniadau hyn yw eich helpu i fagu hyder a chymhwysedd wrth ddatblygu’r wybodaeth a’r ymddygiad craidd sydd wedi’u nodi yn y Map Proffesiwn CIPD (Lefel Cyswllt).
Byddwch yn astudio 7 uned:
5C001 - Perfformiad a Diwylliant Sefydliadol yn Ymarferol
5C002 - Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth
5C003 - Ymddygiad Proffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl
5LD01 – Cefnogi Dysgu Anffurfiol a Hunangyfeiriedig
5LD02 – Dylunio Rhaglenni Dysgu a Datblygu i Greu Gwerth
5LD03 – Hwyluso Dysgu Strwythuredig a Gweithgareddau Datblygu i Grwpiau
5OS01 - Cyfraith Cyflogaeth Arbenigol
Ar ôl i chi gwblhau eich aseiniad, caiff yr holl ganlyniadau eu hadolygu drwy broses Gymedroli swyddogol CIPD. Mae cymedroli’n digwydd yn ystod cyfnodau penodol drwy gydol y flwyddyn, a all ymestyn yr amser mae’n ei gymryd i gael eich cadarnhad terfynol. Ar ôl i’ch canlyniadau gael eu cymeradwyo, mae CIPD ei hun yn anfon ardystiad digidol, fel arfer ymhen pedair i chwe wythnos.
Aelodaeth CIPD:
I astudio’r cymhwyster hwn, bydd angen Aelodaeth CIPD weithredol arnoch am gyfnod llawn y cwrs. Nid yw ffioedd aelodaeth yn cael eu cynnwys ym mhris eich cwrs gan eu bod yn bersonol i chi ac yn gallu cael eu cynnal y tu hwnt i’ch cymhwyster er mwyn parhau i gefnogi eich taith broffesiynol. Mae gwybodaeth am Ffioedd Aelodaeth CIPD i'w chael ar wefan CIPD.
Byddwn yn eich arwain drwy’r broses cofrestru aelodaeth wrth ymrestru er mwyn i chi gael dechrau arni'n ddidrafferth.
Y broses ymgeisio:
Ar ôl cyflwyno eich cais, bydd ein tîm yn cysylltu â chi i drefnu cyfweliad Microsoft Teams o bell. Bydd y cyfarfod byr hwn gydag aelod o’r tîm CIPD yn asesu eich addasrwydd ar gyfer y cymhwyster yn unol â chanllawiau CIPD a dyma fydd yn gyfle i chi ddysgu rhagor am strwythur y cwrs.
Ffi Cwrs: £3,925.00
Gallwch wneud cais am y cwrs hwn os ydych chi: • Yn 19 oed neu'n hŷn • Heb fod mewn addysg amser llawn ar hyn o bryd neu wedi cofrestru ar gwrs a ariennir gyda CCAF • Yn gallu darparu tystiolaeth o TGAU Saesneg (A–C) neu gymhwyster cyfatebol/uwch. Os na allwch ddarparu'r dystiolaeth hon, efallai y gofynnir i chi gwblhau tasg ysgrifenedig fer • Yn ddelfrydol, â Thystysgrif Sylfaen CIPD mewn Ymarfer Pobl Lefel 3 • Yn gweithio ar hyn o bryd mewn rôl ymarfer pobl uwch, yn arwain a rheoli pobl ac ymarfer o fewn sefydliad.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Bydd y cymhwyster hwn yn eich darparu â’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sy’n angenrheidiol i ddatblygu yn y maes Dysgu a Datblygu.
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, efallai y byddwch yn dewis parhau i astudio cymhwyster Lefel 7 CIPD.