Mae'r Dystysgrif ILM Lefel 7 mewn Hyfforddi a Mentora Swyddogion Gweithredol yn gymhwyster sy’n cael ei chydnabod yn genedlaethol ac sydd wedi’i dylunio ar gyfer uwch-reolwyr neu bobl broffesiynol mewn swyddi Adnoddau Dynol/Datblygiad Sefydliadol sydd eisiau datblygu eu harbenigedd a chredadwyaeth ym meysydd hyfforddi a mentora ar lefel sefydliadol.
Diddordeb? Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!
Er mwyn ennill eich cymhwyster Tystysgrif ILM Lefel 7 mewn Hyfforddi a Mentora Swyddogion Gweithredol, bydd gofyn i chi fynychu 8 dosbarth wyneb yn wyneb hanfodol ar safle ein campws Canol y Ddinas ar y dyddiadau canlynol:
Unedau a gynhwysir o fewn y cymhwyster hwn:
Dewisiadau Asesu
Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys 3 modiwl ac mae gan bob un aseiniad cynhwysfawr sy’n cynnwys; aseiniad yn seiliedig ar ddamcaniaeth, portffolio gwerth 20 awr o hyfforddi mewn sefydliad, ac aseiniad myfyriol.
Mae amser i hunan-astudio yn allweddol i’ch helpu i gwblhau eich aseiniadau a pharatoi at eich asesiad - felly sicrhewch eich bod yn trefnu eich amserlen yn unol â hynny.
Byddwch yn cael cymorth llawn drwy gydol y cwrs, gydag arweiniad gan eich tiwtor ILM dynodedig dros e-bost, Microsoft TEAMS, ffôn ac yn ystod diwrnodau eich tiwtorial.
Ar ôl i chi lwyddo yn y ddau fodiwl, byddwch yn derbyn eich Tystysgrif ILM Lefel 7 mewn Hyfforddi a Mentora Swyddogion Gweithredol, ynghyd â bathodyn digidol i’w rannu a dathlu eich cyflawniad ar-lein.
Ffi Cwrs: £2,190.00
I fod yn gymwys ar gyfer y cymhwyster hwn, rydych chi: Yn 19 oed neu'n hŷn Yn gallu mynychu pob gweithdy ar y safle Mewn cyflogaeth mewn rôl Uwch Reoli neu Broffesiynol AD/OD (oherwydd natur fyfyriol aseiniadau'r cymhwyster). Llwythwch i fyny Ddatganiad Personol o leiaf 500 gair wrth wneud cais i amlinellu eich diddordeb mewn cael y cymhwyster hwn Llwythwch i fyny dystiolaeth o'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn e.e. TGAU neu Dystysgrif Gradd Sylwch na allwn brosesu ceisiadau heb Ddatganiad Personol, ac efallai y gofynnir i chi ddangos tystiolaeth o'ch statws cyflogaeth!
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.