Mae Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant yn gymhwyster sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol ac mae'n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd am symud eu gyrfa ymlaen, neu ddechrau gyrfa mewn Addysgu a Hyfforddi ar draws ystod eang o sefydliadau.
Diddordeb? Cliciwch drwy'r isdeitlau isod am ragor o wybodaeth ac i wirio a ydych yn gymwys!
Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu wyneb-yn-wyneb yn ein campws Canol y Ddinas, o 9.30am - 4pm.
Diwrnod 1: Dydd Mawrth 6ed Mai
Diwrnod 2: Dydd Mercher 7 Mai
Diwrnod 3: Dydd Mawrth 20 Mai
Diwrnod 4: Dydd Mercher 21 Mai
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn ennill sgiliau addysgu hanfodol megis cynllunio a darparu sesiynau dysgu cynhwysol, asesu gwaith a rhoi adborth adeiladol.
Pynciau yr ymdrinnir â nhw:
Er mwyn ennill y cymhwyster, bydd angen i chi fynychu pob gweithdy ymarferol y rhestrir eu dyddiadau uchod, cynnal hunan-astudiaeth, ysgrifennu a chyflwyno aseiniadau academaidd er mwyn gosod dyddiadau dychwelyd, a chwblhau asesiad micro-ddysgu.
Ffi Cwrs: £279.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Arholiad : £85.00
Rhaid i Ffioedd Cofrestru a’r Cwrs gael eu talu wrth i chi gofrestru.
Mae’n rhaid i chi:
Wrth wneud cais:
Ar ôl gwneud cais, bydd holiadur yn cael ei anfon atoch i’w gwblhau. Wedi iddo gael ei gyflwyno, bydd yn cael ei adolygu, a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i adael i chi wybod a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus. Sylwch, ni fydd ceisiadau yn cael eu prosesu hyd nes i’r holiadur gael ei ddychwelyd.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.