Mewn partneriaeth â Stiwdios Fivefold, Tramshed Tech a Choleg y Cymoedd, bydd y Bŵtcamp Cynhyrchiad Rhithiol cyffrous hwn yn addysgu agweddau sylfaenol y maes, wrth roi’r cyfle i ddysgwyr gael profiad ymarferol.
Yn cael ei gynnal mewn cyfleuster cynhyrchu rhithiol blaenllaw, byddwch yn elwa o arbenigedd y diwydiant a chael mynediad at gyfarpar o ansawdd dda, sy’n gyfatebol i safonau proffesiynol. Mae’r rhaglen drochol hon yn canolbwyntio ar dechnegau a thechnolegau blaengar, yn cynnig hyfforddiant ymarferol mewn:
Mae’r Bŵtcamp Cynhyrchiad Rhithiol yn gyfle arbennig ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd ar ddechrau eu gyrfa, neu rai sydd yng nghanol eu gyrfa, sy’n dymuno ehangu eu sgiliau, yn ogystal â graddedigion diweddar sy’n chwilio am brofiad ymarferol.
Mae’r cwrs 6 diwrnod hwn, sy’n cael ei gynnal dros 3 wythnos yn darparu cyflwyniad byr a chraff i brif adrannau yn y sector, a’r adrannau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Erbyn diwedd y Bŵtcamp, byddwch â phrofiad a dealltwriaeth o:
Ar y diwrnod olaf, bydd sesiwn gyfweliad cyflym, yn rhoi’r cyfle i gyfranogwyr ymgysylltu â nifer o gyflogwyr. Bydd hyn yn meithrin sgiliau cyfathrebu, ac yn eich galluogi i greu cysylltiadau proffesiynol, wrth drafod y wybodaeth a ddysgwyd yn ystod y rhaglen.
Mae’r Bŵtcamp Cynhyrchiad Rhithiol wedi ei ddylunio ar gyfer amrywiaeth eang o gyfranogwyr. Y cyfranogwyr delfrydol yw gweithwyr proffesiynol sydd ar ddechrau eu gyrfa, neu sydd yng nghanol eu gyrfa, yn ogystal â graddedigion diweddar yn y maes.
Mae’r Bŵtcamp hwn yn gynhwysol, ac yn croesawu dysgwyr o amryw o gefndiroedd ac sydd â lefelau amrywiol o brofiad. Ar ôl y broses sgrinio, bydd eich cais yn cael ei adolygu gan y darparwr i wirio addasrwydd, cyn cofrestru.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18+ oed ac yn byw neu’n gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.