Bydd y rhaglen gyflwyniadol, fer 1.5 diwrnod hon yn eich cynorthwyo i ddatblygu cynlluniau gwastraff a chynaliadwyedd eich cwmni, drwy egwyddorion twf glân ac economi gylchol. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi cynhyrchu cynllun lleihau carbon dan arweiniad arbenigwyr, wedi’i deilwra ar gyfer eich busnes, a fydd yn gallu cael ei roi ar waith, ynghyd â syniadau ymarferol eraill. Yn cynorthwyo eich busnes i fod yn frand sy’n addas ar gyfer y dyfodol ac yn gynaliadwy.
Yn cael ei gynnal gan CEIC (Economi Gylchol a Chymunedau Arloesi) a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, bydd y cwrs hwn yn rhoi’r cyfle i chi ddysgu am ffyrdd y gallwch arwain effeithlonrwydd, lleihau costau a chael mynediad at gyfleoedd newydd yn y farchnad. Bydd hyn yn cynorthwyo eich busnes i leihau gwastraff, cynyddu cylchoedd bywyd cynnyrch a rhoi dylunio cylchol ar waith.
Mae’r rhaglen hon yn berffaith ar gyfer perchnogion busnes, swyddogion cynaliadwyedd, rheolwyr prosiect ac entrepreneuriaid sy’n dymuno cyfuno ymarferion cynaliadwy gyda’u gweithrediadau.
Mae gennym 3 dyddiad a lleoliadau ar gael sy’n gyfleus i fusnesau ledled y rhanbarth:
Eisiau gwybod mwy? Cliciwch ar ‘Gwneud Cais Nawr’ a byddwch yn cael eich cyfeirio at dudalen Mynegiant o Ddiddordeb y CEIC, lle gallwch wneud cais.
Mae’r rhaglen hon yn berffaith ar gyfer perchnogion busnes, swyddogion cynaliadwyedd, rheolwyr prosiect ac entrepreneuriaid sy’n dymuno cyfuno ymarferion cynaliadwy gyda’u gweithrediadau.
Rhaid i gyfranogwyr fod yn 18 oed neu hŷn, ac yn byw neu’n gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg).