Diploma Cyswllt mewn Rheoli Pobl CIPD - Ar-lein a Dosbarth Rhithiol

L5 Lefel 5
Rhan Amser
14 Medi 2026 — 31 Gorffennaf 2028
Ar-lein

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r Diploma Cyswllt Rheoli Pobl Lefel 5 yma yn ddelfrydol ar gyfer uwch ymarferwyr pobl cyfredol a rhai sy’n anelu i fod yn uwch ymarferwyr pobl. 

Mae ein carfan ar-lein newydd yn galluogi i chi ddysgu mewn ffordd hyblyg sy’n gallu cyd-fynd gyda’ch ymrwymiadau personol! 

Astudiwch drwy blatfform dysgu ar-lein Mindful Education sy’n cynnwys tiwtorialau byw a mynediad dethol at fideos, cwestiynau ymarfer, deunydd y gellir ei lawrlwytho ac astudiaethau achos rhyngweithiol sydd wedi’u cynllunio er mwyn eich helpu chi i adeiladu dealltwriaeth fwy trylwyr o ddeunyddiau CIPD Lefel 5. 

Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn mynychu tiwtorialau byw rheolaidd gyda darlithydd CIPD CCAF a fydd yn hwyluso trafodaethau grŵp er mwyn gwella eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o bynciau AD er mwyn atgyfnerthu’r dysgu. 

Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r gwrs yma’n cael ei ddarparu ar-lein drwy gymysgedd o Hunan-astudio a thiwtorialau byw 2 awr bob yn ail dydd Llun. 

Mae’r cymhwyster ei hun wedi’i adeiladu o amgylch y Map Proffesiwn CIPD sy’n gosod y meincnod rhyngwladol ar gyfer gweithwyr proffesiynol pobl, gan gyfuno cyfres o werthoedd craidd, gwybodaeth ac ymddygiadau sy’n arwain gweithwyr proffesiynol pobl wrth iddynt wneud penderfyniadau a gweithredu.

Cynnwys ac Asesiad: 

Er mwyn sicrhau’r cymhwyster hwn, bydd gofyn i chi ysgrifennu a chyflwyno aseiniadau uned i derfynau amser. Mae yna 7 uned gyda’i gilydd: 

3 uned orfodol

5C001 Perfformiad a diwylliant sefydliadol yn ymarferol

5C002 Ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth

5C003 Ymddygiadau proffesiynol a gwerthfawrogi pobl

3 uned arbenigol

5HR01 Rheoli perthynas cyflogaeth

5HR02 Rheoli Talent a chynllunio gweithlu 

5HR03 Gwobrwyo ar gyfer perfformiad a chyfraniad 

1 uned ychwanegol 

50S01 Cyfraith Cyflogaeth Arbenigol

Aelodaeth CIPD:

Bydd pob myfyriwr angen Aelodaeth CIPD gweithredol drwy gydol cyfnod eu cymhwyster. Nid yw CCAF yn cwrdd â chostau Aelodaeth gan mai aelodaeth bersonol y mae gennych chi’r cyfle i’w dal wedi i chi gymhwyso ydynt. Byddwn yn eich gwahodd chi i gofrestru eich Aelodaeth wrth i chi gofrestru.

Ffïoedd cwrs

Ffi Cwrs: £3,295.00

Gofynion mynediad

Gallwch wneud cais am y cwrs hwn os ydych chi: 

• Yn 19 oed neu'n hŷn • Ddim mewn addysg amser llawn ar hyn o bryd neu wedi cofrestru ar gwrs a ariennir gyda CCAF 

• Yn gallu darparu tystiolaeth o TGAU Saesneg (A–C) neu gymhwyster cyfatebol/uwch. Os na allwch ddarparu'r dystiolaeth hon, efallai y gofynnir i chi gwblhau tasg ysgrifenedig fer

• Yn gweithio ar hyn o bryd mewn rôl ymarfer pobl uwch, neu â phrofiad o wneud hynny, yn arwain a rheoli pobl ac ymarfer o fewn sefydliad

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

14 Medi 2026

Dyddiad gorffen

31 Gorffennaf 2028

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

2 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSCIPD5PM01
L5

Cymhwyster

CIPD Associate Diploma in People Management
CIPD Platinum Logo

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud