Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i ddysgwyr o'r wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen wrth weithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn amgylchedd ysgol a choleg. Mae'n ymdrin â phob agwedd ar gefnogaeth arbenigol, gan gynnwys: cynllunio; gweithredu ac adolygu strategaethau asesu i gefnogi dysgu ochr yn ochr â'r athro/athrawes; cefnogaeth ddwyieithog; cefnogaeth anghenion arbennig; datblygiad personol ac ymarfer myfyriol.
Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn amrywiaeth o feysydd pwnc allweddol, gan gynnwys:
Ochr yn ochr â hyn, bydd dysgwyr yn cwblhau cymhwyster ychwanegol gyda'r nod o gefnogi unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol ag anghenion dysgu ychwanegol a 200 awr o leoliad gwaith mewn amgylchedd ysgol neu goleg.
5 TGAU A*-C mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg Gwaith ac C mewn Mathemateg. Gwiriad DBS Manwl clir.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl edrych i mewn i astudio Gofal Plant yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, gwyddwn mai hwn oedd y cwrs i mi. Mae’r awyrgylch dysgu yn wych yma, ac mae cymaint o gymorth ar gael. Rydw i’n ddyslecsig, ond mae’r holl diwtoriaid wedi bod yn barod iawn eu cymorth bob amser. Gallaf fod yn bryderus wrth gwrdd â phobl newydd, ond ymgartrefais yn arbennig yma, yn ystod yr wythnos gyntaf hyd yn oed. Gan fy mod yn astudio yma, cefais y cyfle i gymryd rhan yn Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2023 mewn Gofal Plant – ac enillais! Rydw i’n gobeithio datblygu o Lefel 2 i Lefel 3 yma yn y Coleg, ac yna hyfforddi i fod yn Therapydd Iaith a Lleferydd, gan helpu plant a phobl ifanc gyda’u sgiliau cyfathrebu.
Gall dysgwyr symud ymlaen i dystysgrif Lefel 4 ar gyfer yr Uwch Ymarferydd mewn Ysgolion a Cholegau, gradd sylfaen neu rolau arbennig o fewn y gweithlu.