Ymarfer gwaith Chwarae

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws y Barri

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer pobl a ddymuna gael gyrfa mewn gwaith chwarae. Gall gwblhau'r cymhwyster hwn arwain at waith yn y swyddi canlynol:

  • Gweithiwr Chwarae
  • Gweithiwr neu reolwr Canolfan wyliau
  • Cynrychiolydd gwyliau
  • Cynorthwyydd neu reolwr canolfan hamdden
  • Therapydd chwarae
  • Goruchwylydd amser cinio mewn ysgolion

Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn lleoliad sy’n ymwneud â chwarae er mwyn ennill profiad ymarferol o’r sgiliau a ddysgwyd yn y dosbarth.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd dysgwyr yn astudio Cydraddoldeb ac amrywiaeth, cyfathrebu, a sgiliau datblygu personol gydag egwyddorion chwarae plant a diogelu ac iechyd plant, llesiant, dysgu a datblygu.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

19.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CRCR2F05
L2

Cymhwyster

Playwork Practice
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

"Mae’r coleg wedi rhoi i mi’r sgiliau i wella fy ngwybodaeth drwy ddosbarthiadau a phrofiadau gwaith, gan fy nghaniatáu i ennill profiadau go iawn yn ogystal â chyfleoedd”

Aliyah Bowring
Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ