Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Ynghylch y cwrs hwn
Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant Lefel 2: Dyluniwyd y cymhwyster craidd i ddysgwyr 16 oed neu hŷn yng Nghymru sy'n gweithio neu eisiau gweithio mewn:
- Lleoliad gofal plant a reoleiddir gyda theuluoedd a phlant o dan 8 oed.
- Gwasanaethau plant y GIG sy'n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau iechyd plant.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Mae'r cymhwyster craidd yn mynd i'r afael â'r wybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol y Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan newydd ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, ac yn adlewyrchu amrywiaeth o wahanol swyddi ac oed.
Mae'r cymhwyster Arfer a Theori yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant gyda'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio yn y sector hwn.
Mae'r pynciau yn cynnwys:
- Cefnogi arfer craidd mewn gofal, chwarae, dysg a datblygiad plant.
- Cefnogi gofal, chwarae, dysg a datblygiad plant.
- Cefnogi maeth a hydradiad mewn blynyddoedd cynnar.
- Ymateb i rybuddion o salwch posib a heigiadau/heintiau
- Iechyd, llesiant a datblygiad plant, 0-19 oed, a ffactorau sy'n cefnogi iechyd, llesiant a datblygiad.
- Rôl a gwerth gofal cymdeithasol, addysg a gwasanaethau iechyd ar gael yng Nghymru i gefnogi gydag anghenion gofal, iechyd, llesiant a datblygiad plant.
Mae gofyn i ddysgwyr gwblhau lleiafswm o 280 awr mewn lleoliad gwaith i gwblhau’r cymhwyster hwn.
Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant Lefel 2: Asesir y cymhwyster Arfer a Theori drwy gyfuniad o asesiadau mewnol ac allanol. Mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau'n llwyddiannus:
- Cyfres o dasgau a osodir yn allanol sy'n cael eu marcio'n fewnol.
- Portffolio o dystiolaeth.
- Trafodaeth gydag asesydd.
- Arholiad allanol.
Gofynion mynediad
3 TGAU A* i C. C mewn Saesneg Iaith, D mewn Mathemateg (ni dderbynnir TGAU Rhifedd; fodd bynnag, bydd dysgwyr â chymhwyster Cymhwyso Rhif Lefel 2 yn cael eu hystyried fel arallddewis i radd D mewn TGAU Mathemateg). Gwiriad DBS Uwch i'w gwblhau wrth gofrestru.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
“Mae fy nhiwtoriaid wedi bod mor gefnogol a hyfryd. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, rwy’n gobeithio symud ymlaen i’r brifysgol i ddod yn athrawes ysgol gynradd gymwys.”
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Gall dysgwyr symud ymlaen i’n cwrs lefel 3 mewn Gofal Plant neu ennill prentisiaeth yn y diwydiant.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu