Mae gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc ddysgu amdanyn nhw eu hunain, am eraill, ac am y gymdeithas drwy weithgareddau addysgol anffurfiol sy’n cyfuno mwynhad, her a dysg. Mae gweithwyr ieuenctid fel arfer yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Yn eu gwaith, maent yn ceisio hyrwyddo datblygiad personol a chymdeithasol pobl ifanc a’u galluogi i gael llais, dylanwad a lle yn eu cymunedau ac o fewn cymdeithas yn ehangach.
Bydd dysgwyr yn astudio Cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu, datblygiad ac ymgysylltiad bobl ifanc a chyfathrebu gyda phobl ifanc, ynghyd a theori gwaith ieuenctid.
3 TGAU Gradd A* - C gan gynnwys Saesneg Iaith A* - C
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae’r cwrs wedi rhoi profiad gwerthfawr, ymarferol i mi ym maes gofal iechyd a chefais gefnogaeth fy athrawon drwy gydol fy amser yma. Mae’r cyfleusterau yn wych ac rydym wastad yn defnyddio’r offer diweddaraf, sy’n bodloni safonau’r diwydiant. Mae’r Coleg hefyd wedi rhoi cysylltiadau trafnidiaeth hygyrch i mi, sy’n golygu y gallaf gyrraedd a gadael y campws yn ddidrafferth. Rwy’n edrych ymlaen at fy nyfodol, ac yn awyddus i fynd ymlaen i Lefel 3 y flwyddyn nesaf ac yna dechrau gweithio yn y sector.
Mae cymhwyster Gwaith Ieuenctid yn paratoi dysgwyr i ddechrau gweithio gyda phobl ifanc mewn ystod o amgylcheddau gwaith ieuenctid ac yn addas ar gyfer dysgwyr sy’n newydd i’r maes gwaith ieuenctid ac angen cyflwyniad i egwyddorion a dibenion gwaith ieuenctid, a themâu allweddol y sector.