Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar wybodaeth ac mae ar gyfer staff profiadol sy’n dymuno datblygu eu potensial arwain er mwyn symud ymlaen at rôl arwain a rheoli yn y sector Gofal Plant. Gan fod y cymhwyster yn seiliedig ar wybodaeth, gall ddysgwyr gwblhau’r cymhwyster hwn cyn iddyn nhw sicrhau rôl arwain.
*Mae ffioedd yn amodol ar newid (2-7%) a dilysu.
Mae’r cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn cynnwys y tair uned ganlynol:
Mae’n rhaid i ddysgwyr feddu ar gymhwyster Lefel 2 neu Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Ymarfer neu Ddamcaniaeth) neu rag-gymhwyster sydd wedi’i restru yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant a Reoleiddir yng Nghymru.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae’r cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn rhoi’r wybodaeth i helpu rheolwyr gymryd eu cam cyntaf tuag at rôl arwain, ac ar gyfer datblygu i un o’r canlynol: