Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant Lefel 3: Mae'r cymhwyster Arfer a Theori yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant gyda'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio yn y sector hwn. Mae wedi ei ddylunio’n bennaf i ddysgwyr ôl-16 mewn addysg bellach sydd:
Mae’r cymhwyster hwn yn addas i ddysgwyr sydd wedi cyflawni cymhwyster gofal plant Lefel 2 yn cynnwys Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant Lefel 2: Arfer a Theori neu sydd â gwybodaeth flaenorol o’r sectorau gofal, chwarae, dysg a datblygiad plant.
Mae’n ofynnol i ddysgwyr gwblhau isafswm o 700 awr o brofiad gwaith i gyflawni’r cymhwyster hwn.
Byddwch yn astudio:
Hanfodol: 5 TGAU A* i C. C mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith, C mewn Mathemateg (rhifedd heb ei dderbyn, fodd bynnag gellir derbyn cymhwyster AON lefel 3 Sgiliau Hanfodol Cymru yn lle mathemateg) Gwiriad DBS manylach clir.
Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant Lefel 3: Asesir cymhwyster Arfer a Theori drwy 70% o asesiad mewnol a 30% o asesiad allanol. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl edrych i mewn i astudio Gofal Plant yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, gwyddwn mai hwn oedd y cwrs i mi. Mae’r awyrgylch dysgu yn wych yma, ac mae cymaint o gymorth ar gael. Rydw i’n ddyslecsig, ond mae’r holl diwtoriaid wedi bod yn barod iawn eu cymorth bob amser. Gallaf fod yn bryderus wrth gwrdd â phobl newydd, ond ymgartrefais yn arbennig yma, yn ystod yr wythnos gyntaf hyd yn oed. Gan fy mod yn astudio yma, cefais y cyfle i gymryd rhan yn Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2023 mewn Gofal Plant – ac enillais! Rydw i’n gobeithio datblygu o Lefel 2 i Lefel 3 yma yn y Coleg, ac yna hyfforddi i fod yn Therapydd Iaith a Lleferydd, gan helpu plant a phobl ifanc gyda’u sgiliau cyfathrebu.
Cwblhau Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant Lefel 3: Mae cymhwyster Arfer a Theori yn darparu sylfaen addas i astudio blynyddoedd cynnar a gofal plant drwy ystod o gyrsiau addysg uwch, neu brentisiaethau.