Sgiliau Proffesiynol Gweinyddiaeth

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Cynlluniwyd ein Cwrs Diploma OCR mewn Gweinyddu i roi'r cyfle i fyfyrwyr gychwyn ar yrfa ddiddorol a gwerth chweil ym maes gweinyddu.

Gan astudio ar ein campws Canol Dinas yng Nghaerdydd, bydd dysgwyr yn datblygu'r sgiliau a'r galluoedd a ystyrir gan gyflogwyr i daclo ystod eang o ddyletswyddau gweinyddol yn hyderus.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae'r pynciau yr ymdrinnir â nhw’n cynnwys:

  • Egwyddorion cyfrifoldebau personol a sut i ddatblygu a gwerthuso eich perfformiad eich hun yn y gwaith   
  • Egwyddorion gweithio gydag eraill a goruchwylio eraill mewn amgylchedd gwaith  
  • Egwyddorion rheoli gwybodaeth a chynhyrchu dogfennau mewn amgylchedd busnes 
  • Cefnogi'r amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid a darpariaeth gwasanaeth cwsmeriaid effeithiol 
  • Egwyddorion darparu a chynnal gwasanaethau gweinyddol 
  • Defnyddio technolegau Cydweithredol a meddalwedd prosesu geiriau

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gymysgedd o ddarlithoedd byr, gan weithio gyda myfyrwyr eraill mewn parau a grwpiau, drwy arddangosiadau a gwaith ymarferol i’ch helpu i ddatblygu sgiliau dadansoddol a goruchwyliol da.

Gofynion mynediad

5 Gradd A* - C TGAU gan gynnwys Iaith Saesneg a Mathemateg neu gymhwyster Lefel 2 perthnasol. Bydd myfyrwyr hŷn heb gymwysterau TGAU yn cael eu hystyried os oes ganddynt brofiad gwaith perthnasol mewn gweinyddu neu wasanaeth cwsmer.

Addysgu ac Asesu

Aseiniadau, asesiadau ymarferol a phrofion ar-lein parhaus.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

BSCC3F01
L3

Cymhwyster

OCR Diploma Lefel 3 mewn Gweinyddu (Busnes Proffesiynol)

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

7%

Erbyn 2025, rhagwelir y bydd y diwydiant hwn yn tyfu 7% ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan arwain at 2,500 o swyddi ychwanegol. (Lightcast 2021).

Diploma Lefel 4 mewn Rheoli Busnes neu gyflogaeth.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE