Mae Tystysgrif Lefel 3 NALP mewn Ymarfer Paragyfreithiol wedi’i fwriadu ar gyfer rhai sydd â’u bryd ar fod yn baragyfreithiwr.
Mae’r cwrs hefyd yn addas ar gyfer y rheiny sydd â pheth profiad paragyfreithiol eisoes, ac sydd am symud ymlaen gyda’u gyrfa yn y sector cyfreithiol.
Mae’r Dystysgrif yn darparu ystod eang o wybodaeth am ymarfer Paragyfreithiol gan gynnwys gwybodaeth fanwl am y system gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr ac egwyddorion cyfreithiol cyffredinol Cyfraith Cytundebau.
Byddwch yn astudio’r broses ddeddfu, strwythur y llys, rolau staff cyfreithiol allweddol a dulliau o ddatrys anghydfod. Yn ogystal, byddwch yn dysgu am gyfrifoldebau’r paragyfreithiwr mewn perthynas â gofal cwsmer trwy ddatblygu dealltwriaeth drylwyr o ddulliau priodol o ymddygiad proffesiynol priodol a bod yn barod i ymgymryd ag anghenion gofal cwsmer mewn unrhyw sefyllfa.
Mae’r cwrs yn cael ei gefnogi gan ystod o adnoddau ar-lein sy’n cael eu darparu gan Mindful Education a’r Coleg.
NALP yw’r National Association of Licensed Paralegals sy’n gorff aelodaeth proffesiynol ar gyfer Paragyfreithwyr.
Mae NALP yn ymdrechu i sicrhau bod ei aelodaeth yn cael eu cydnabod fel rhan allweddol o’r proffesiwn cyfreithiol o ran ansawdd ei gymwysterau a datblygiad proffesiynol. Mae NALP yn annog, hyrwyddo a datblygu rôl ac ymarfer y paragyfreithiwr ac mae’n cynrychioli buddiannau gorau ei aelodau.
Ffi Arholiad : £260.00
Ffi Cwrs: £420.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £45.00
TGAU gradd C mewn Saesneg
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Unwaith y bydd y cwrs wedi ei gwblhau yna gallwch chwilio am waith fel paragyfreithiwr a pharhau gyda’ch addysg gyfreithiol trwy ymgymryd ag astudiaethau pellach ar gwrs NALP lefel uwch neu ddarparwyr addysg gyfreithiol arall megis CILEx.