Mae’r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb brwd yn y byd busnes, ac sydd awydd datblygu gwybodaeth a sgiliau ymarferol er mwyn eu paratoi ar gyfer astudiaeth bellach neu yrfa yn y diwydiant. Mae’n Dystysgrif Estynedig mewn Busnes ym Mlwyddyn 1, gan arwain at Ddiploma mewn Busnes ar ddiwedd Blwyddyn 2, sydd gyfwerth â dau gymhwyster Lefel A.
Yn y flwyddyn gyntaf, bydd myfyrwyr yn ymdrin ag adrannau allweddol fel Archwilio Busnes, Marchnata, Cyllid Personol a Busnes, a Recriwtio, ar gyfer datblygu sylfaen gadarn mewn egwyddorion busnes.
Yn yr ail flwyddyn, mae’r cwrs yn ehangu i feysydd uwch, gan gynnwys Rheoli Digwyddiad, Busnes Rhyngwladol, Egwyddorion Rheoli, a Marchnata Digidol, sy’n galluogi myfyrwyr i gael cipolwg gwerthfawr ar weithrediadau busnes ar raddfa genedlaethol a byd-eang.
Yn ogystal â’r cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn cwblhau Bagloriaeth Cymru dros y ddwy flynedd, sydd gyfwerth â 1 Lefel A.
Mae’r meysydd yr ymdrinnir â nhw yn ystod y 2 flynedd yn cynnwys:
4 TGAU Gradd A* - C yn cynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg (neu gyfwerth) neu gymhwyster Lefel 2 Busnes gyda Gradd TGAU A*-C mewn Saesneg Iaith a Mathemateg (neu gyfwerth). Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol gael sgôr IELTS o 5.5 neu uwch.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dwi wedi mwynhau fy amser Busnes yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn arw. Dwi wedi dysgu cymaint! Mae’r addysg a’r gefnogaeth wedi bod yn wych drwy gydol fy amser yma.
Mae’r cwrs hwn yn addas iawn ar gyfer y rheiny sy’n gobeithio mynd yn eu blaen i’r brifysgol, i brentisiaeth, neu i fyd gwaith mewn sectorau megis marchnata, cyllid, rheolaeth neu entrepreneuriaeth.