Busnes

L2 Lefel 2
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Campws y Barri

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r Dystysgrif Estynedig BTEC Lefel 2 mewn Busnes yn gymhwyster ymarferol sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae’r cwrs hwn yn gyfwerth â phedwar TGAU gradd A-C. Mae myfyrwyr yn dysgu drwy gwblhau aseiniadau yn seiliedig ar sefyllfaoedd, gweithgareddau a gofynion gweithlu go iawn yn ogystal â dau arholiad.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd yr unedau y byddwch chi'n eu hastudio yn cynnwys:

  • Menter yn y Byd Busnes
  • Cyllid i Fusnesau
  • Egwyddorion Marchnata
  • Recriwtio, Dethol a
  • Chyflogaeth
  • Busnes Ar-lein
  • Egwyddorion Gwasanaeth Cwsmer

Gofynion mynediad

4 TGAU A-D gan gynnwys Mathemateg a Saesneg

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

BSCR2F16
L2

Cymhwyster

Business

Rwyf wedi mwynhau’r cwrs yn CAVC, roedd yr athrawon yn wych a chefais y cymorth yr oedd ei angen arnaf. Oherwydd cyfoeth y cwrs rwy’n credu y byddai hwn yn gwrs da ar gyfer unrhyw un sy’n chwilio am waith yn y sector gwasanaethau ariannol.
Byddwn yn bendant yn argymell astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, gan fod y Coleg wedi fy nghynorthwyo i gael profiad gwaith gwerthfawr a’m galluogodd i adeiladu fy CV. Ers imi adael CAVC wyf wedi dechrau swydd newydd fel Dadansoddwr Cymorth Systemau yn Deloitte. Rwy’n credu bod y cwrs hwn wedi fy nghynorthwyo i lwyddo yn y broses ymgeisio ac wedi rhoi amrywiaeth eang o wybodaeth y gallaf ei defnyddio yn fy swydd bresennol.

Evelina Sinkeviciute
Cyn-ddysgwr Busnes a Chyllid Lefel 3

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

7%

Erbyn 2025, rhagwelir y bydd y diwydiant hwn yn tyfu 7% ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan arwain at 2,500 o swyddi ychwanegol. (Lightcast 2021).

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gallwch fynd ymlaen i astudio un o'n cyrsiau Lefel 3, yn cynnwys:

Astudiaethau Ariannol, Gwarantau a Buddsoddi

Busnes - Diploma Sylfaen Cenedlaethol

Gweinyddu Busnes (Proffesiynol)

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ