Mae’r Dyfarniad Arbenigol Marchnata AI Lefel 6 CIM hwn wedi ei ddylunio i weithwyr proffesiynol y byd marchnata sydd awydd datblygu arbenigedd strategol ac ymarferol mewn deallusrwydd artiffisial. Mae’n berffaith i’r bobl sy’n gweithio mewn swyddi gweithredol neu oruchwyliol ac mae’n rhoi’r wybodaeth i ddysgwyr ddefnyddio AI mewn marchnata, deall ei effaith ehangach ar fusnes, a chynllunio strategaethau effeithiol sy’n cael eu harwain gan AI. Byddwch yn edrych ar gysyniadau, adnoddau, ac ystyriaethau moesegol wrth ddatblygu sgiliau i wella profiad i gwsmeriaid, gwella effeithlonrwydd, a sicrhau mantais gystadleuol. Mae’r cwrs hwn yn unigryw oherwydd mae’n canolbwyntio ar ddefnydd yn y byd go iawn, sgiliau ar gyfer y dyfodol, a chydnawsedd â gofynion cyfredol y diwydiant.
Mae’r cwrs hwn yn ystyried sut y gall deallusrwydd artiffisial gael ei ddefnyddio mewn ymarfer marchnata modern, ac mae’n rhoi’r ddealltwriaeth strategol a’r sgiliau ymarferol i chi. Byddwch yn astudio cysyniadau AI allweddol megis dysgu peirianyddol, prosesu iaith naturiol a gwneud penderfyniadau ar sail data, ynghyd â sut y caiff data ei gasglu, ei reoli a’i ddefnyddio i gyfrannu at weithgarwch marchnata.
Byddwch yn edrych ar fuddion AI, sy’n cynnwys awtomeiddio, personoli a phrofiad gwell i gwsmeriaid, yn ogystal â’r heriau, er enghraifft, ystyriaethau moesegol, preifatrwydd data, dangos tuedd a llywodraethu. Caiff y cwrs ei addysgu drwy sesiynau sy’n cael eu harwain gan diwtor, astudiaethau achos a gweithgareddau ymarferol, sy’n eich galluogi i gymhwyso dysg i sefyllfaoedd y byd go iawn.
Cewch eich asesu drwy arholiad amlddewis ar sgrin, sydd wedi’i ddylunio i adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n berthnasol i’r diwydiant.
Bydd myfyrwyr yn elwa ar ystafelloedd dosbarth modern sydd â chyfarpar digidol yng Nghampws Canol y Ddinas, sy’n cynnwys cyfrifiaduron o’r radd flaenaf a mannau dysgu cydweithredol.
Mae angen i ddysgwyr ddod yn aelodau o CIM am £65 y flwyddyn i gyrchu deunyddiau astudio CIM.
Ffi Cofrestru: £45.00
Ffi Cwrs: £500.00
Ffi gyda gostyngiad (Bwrsari): £250.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau’r Dyfarniad Arbenigol Marchnata AI Lefel 6 CIM, byddwch mewn sefyllfa dda i fwrw ymlaen i uwch swyddi marchnata a swyddi marchnata mwy strategol. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd fel Rheolwr Marchnata, Rheolwr Marchnata Digidol, Arbenigwr Marchnata AI, neu swyddi sy’n canolbwyntio ar graffter cwsmeriaid a marchnata ar sail data.