Mae'r cwrs rhan-amser hwn, Lefel 1, Cyflwyniad i Osodiadau Trydanol wedi'i gynllunio i roi profiad ymarferol i fyfyrwyr ar Osodiadau Trydanol ac Iechyd a Diogelwch yn y Diwydiant Gwasanaethau Adeiladu. Mae'n paratoi dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i gynhyrchu gwaith gosod trydanol.
Bydd dysgwyr yn dysgu am:
Bydd y cwrs yn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarferol yn ymwneud â gwaith gosod Trydan a byddwch yn ymdrin ag amrywiaeth o weithgareddau ac yn cael profiad o’r offer a’r cyfarpar a ddefnyddir mewn Gosodiadau Trydanol, megis:
Byddwch yn astudio yn ein canolfannau a chyfleusterau adeiladu pwrpasol. Mae’r rhain yn cynnwys ystafelloedd dosbarth ar gyfer gweithdai theori a Thrydanol lle byddwch yn datblygu eich sgiliau ymarferol bob wythnos gan ddefnyddio offer a chyfarpar safonol y diwydiant.
Mae asesiad eich cwrs yn cynnwys aseiniadau a ddefnyddir i fesur eich datblygiad sgiliau, gan gynnwys profion sgiliau gosod trydanol ymarferol.
Ffi Arholiad : £111.28
Ffi Cofrestru: £45.00
3 TGAU Gradd A*-D. Fel arall, bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried ar sail cyfweliad ac archwiliad sgiliau boddhaol, gydag awydd ac ymrwymiad i gwblhau'r cwrs y maen nhw am ei astudio. PPE Angenrheidiol: trowsus gwaith ac esgidiau blaen dur â chapiau blaen Offer Arall: pensiliau, beiros a llyfr nodiadau.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Fe ddewisais astudio yn y Coleg oherwydd y cyfleusterau sydd yno ac oherwydd i mi glywed cymaint o bethau da am y Coleg yn lleol. Rwyf wedi mwynhau datblygu fy sgiliau yn y gweithdai, gwneud ffrindiau a dysgu gan y staff a’r darlithoedd – maent yn wybodus dros ben. Rhoddodd y coleg y cyfle i mi gystadlu yng nghystadleuaeth Sgiliau’r Byd y flwyddyn ddiwethaf, ac fe wnes i fwynhau’n arw. Roeddwn hefyd yn lwcus iawn o ennill Dysgwr y Flwyddyn ar gyfer y Gwasanaethau Adeiladu, ac roedd hynny’n uchafbwynt arall i mi. Bellach, rwyf wedi cael fy nerbyn i astudio cwrs gradd ym Mhrifysgol Caerfaddon. Unwaith y byddaf yn cwblhau fy ngradd, byddaf yn edrych i gael ychwaneg o brofiad gwaith cyn mynd ymlaen i sefydlu fy musnes fy hun.