Bydd y cwrs hwn yn darparu gwybodaeth am egwyddorion systemau cyflenwad trydanol i adeiladau domestig gan drafod y chwe deilliant dysgu a restrir isod.
Mae'r deilliannau dysgu yn cynnwys y canlynol:
1. Gwybod beth yw rhannau'r system cyflenwad trydanol domestig i adeiladau.
2. Deall gofynion swyddogaethol elfennau'r system drydanol ddomestig.
3. Gwybod beth yw'r prif ffynonellau cyfeirio, gofynion statudol ac argymhellion ar gyfer cyflenwad trydanol.
4. Deall y cylchedau trydanol sylfaenol, syml a ddefnyddir mewn anheddle.
5. Adnabod amrywiaeth o gydrannau'r system cyflenwad trydanol.
6. Deall diogelwch trydanol.
Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00
Ffi Cwrs: £27.50
Yn addas i ymgeiswyr sydd yn frwdfrydig ac eisiau llwyddo. Byddai ymgeiswyr yn elwa o fod wedi cwblhau’r cwrs blas Trydan Cartref Sylfaenol – ond nid yw hyn yn hanfodol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.