BTEC Cenedlaethol Lefel 3 Diploma Estynedig mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 14 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol yn gymhwyster ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd eisiau parhau â'u haddysg mewn gwyddoniaeth drwy ddysgu cymhwysol ac ymarferol, a'u nod yw mynd ymlaen naill ai i'r brifysgol neu gyflogaeth yn y sector gwyddoniaeth. Wedi’i lleoli ar ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn bod yn dechnegwyr labordy, neu'r rheini sydd eisiau gweithio mewn gwyddor fforensig, ddadansoddol neu fiofeddygol, dod yn nyrs neu yn barafeddyg neu ddysgwyr sydd eisiau astudio gwyddoniaeth gyffredinol/gymhwysol yn y Brifysgol.

Mae hwn yn gwrs dros ddwy flynedd. Ym Mlwyddyn 1, bydd dysgwyr yn ennill eu Diploma Sylfaen mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol. Ym Mlwyddyn 2, byddant yn ychwanegu at eu cymhwyser i gyflawni'r Diploma Estynedig.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Modiwlau a astudir ym Mlwyddyn 1:

  • Uned 1 Egwyddorion a Chymwysiadau Gwyddoniaeth I
  • Uned 2 Gweithdrefnau a Thechnegau Gwyddonol Ymarferol
  • Uned 3 Sgiliau Archwilio Gwyddoniaeth
  • Uned 4 Technegau'r Labordy a'u Cymhwyso
  • Uned 19 Canfod a Dadansoddi Cemegol
  • Uned 8 Ffisioleg Systemau'r Corff Dynol

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: CC yn y Dyfarniad Dwbl neu Deilyngdod mewn BTEC Gwyddoniaeth.

Addysgu ac Asesu

Asesir y cwrs drwy gyfuniad o asesu mewnol ac allanol.

Asesiad Mewnol

Mae unedau a asesir yn fewnol yn cynnwys 3-4 aseiniad gwaith cwrs a gwblheir yn ystod y flwyddyn academaidd. Bydd pob aseiniad yn ymdrin â phwnc gwahanol o fewn yr uned. Rhaid cyflwyno pob aseiniad drwy Microsoft Teams erbyn y dyddiadau cau cyhoeddedig er mwyn iddynt fod yn ddilys.


Asesiad allanol

Ym Mlwyddyn 1, caiff Unedau 1 a 3 eu gosod a’u marcio gan Pearson. Mae Uned 1 yn cynnwys tri arholiad ysgrifenedig: Bioleg, Cemeg a Ffiseg. Mae Uned 3 yn dasg osod; mae dysgwyr yn cael data ymarferol ac yn cael eu hasesu ar eu sgiliau dadansoddi a gwerthuso. 

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

14 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

13.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

SCCC3F01
L3

Cymhwyster

Pearson BTEC Diploma Sylfaen Cenedlaethol Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

Astudiaeth bellach – bioleg, cemeg, gwyddor biofeddygol, gwyddoniaeth fforensig, gwyddoniaeth barafeddygol, deintyddiaeth, etc.

Prentisiaethau

Gweithle sy’n gysylltiedig â labordy

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE