Ymwybyddiaeth o Gerbydau Hybrid/Trydan

L1 Lefel 1
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r dyfarniad Lefel 1 Ymwybyddiaeth o Gerbydau Hybrid/Trydan hwn yn gyflwyniad i dechnoleg cerbydau hybrid/trydan. Mae'n gyflwyniad i wybodaeth am arferion gweithio diogel, fel peryglon cerbydau hybrid/trydan a’r rhagofalon sydd angen eu gwneud er mwyn osgoi anaf posibl pan yn agos at gerbyd hybrid/trydan. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys un uned orfodol, sy’n mynd i'r afael â'r canlynol:

  • y mathau o gerbydau hybrid/trydan sydd ar gael
  • peryglon sydd ynghlwm â systemau trydanol ynni uchel cerbydau modur
  • gweithio’n ddiogel o gwmpas cerbydau hybrid/trydan, gan gynnwys wrth wefru

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £145.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00

Ffi Arholiad : £40.00

Gofynion mynediad

Dim gofynion mynediad ffurfiol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

6 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

MVCC1P16
L1

Cymhwyster

IMI Level 1 Award in Electric/Hybrid Vehicle Awareness

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

18,000

Mae gan Gymru tua 8% o ddiwydiant gweithgynhyrchu modurol y DU ac mae ganddi weithlu medrus o 18,000 o bobl a throsiant blynyddol o £3 biliwn.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE