Atgyweirio ac Ailorffen Corff Cerbydau (Cyflwyniad)

EL3 Lefel Mynediad 3
Rhan Amser
16 Medi 2024 — 25 Tachwedd 2024
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Pam y dylech chi ddewis y cwrs hwn?

  • Hyfforddiant ymarferol:
    Magu profiad ymarferol gydag offer o safon y diwydiant yn ein gweithdy modern gyda’r adnoddau diweddaraf.
  • Hyfforddwyr Arbenigol:
    Dysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol sy’n dod â gwybodaeth o’r byd go iawn i’r dosbarth/gweithdy.
  • Cyfleoedd gyrfa:
    Bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o swyddi yn y diwydiant atgyweirio cerbydau, gyda photensial ar gyfer datblygu eich gyrfa ymhellach.
  • Amgylchedd Dysgu Cefnogol:
    Byddwch yn elwa o ddosbarthiadau bach, cyfarwyddiadau personol, a chymuned gefnogol o gyd-ddysgwyr.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Ar y cwrs hwn byddwch astudio’r canlynol: 

  • Trosolwg o’r diwydiant Atgyweirio Cerbydau yn dilyn damwain, gan gynnwys y cysyniadau a’r prosesau sylfaenol yn ymwneud ag Atgyweirio Cerbydau yn dilyn damwain.
  • Atgyweiriadau Sylfaenol i gorff cerbyd
    Mân Atgyweiriadau: Technegau ar gyfer gwneud mân atgyweiriadau i gorff cerbyd.
  • Tynnu tolciau: Dulliau sylfaenol ar gyfer tynnu tolciau o baneli cerbyd.
  • Defnyddio llenwad: Defnyddio a siapio llenwad ar gyfer corff cerbyd i baratoi ar gyfer côt sylfaenol.
  • Paratoi a defnyddio deunyddiau sylfaenol.
  • Paratoi arwynebau: Technegau ar gyfer paratoi arwynebau i baentio, gan gynnwys glanhau, sandio a masgio.
  • Paratowyr a Selwyr: Defnyddio paratowyr a selwyr ar arwynebau cerbyd.
  • Technegau Paent Sylfaeno
    Chwistrellu Paent: Technegau sylfaenol ar gyfer chwistrellu paent, gan gynnwys gosod a chynnal a chadw’r offer.
  • Diffygion mewn paent: Canfod a chywiro diffygion cyffredin mewn paent.

Mae ein cyfleusterau yn cynnwys yr adnoddau diweddaraf ar gyfer y gweithdy Atgyweirio Cerbydau ac Ailorffen.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £20.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Gofynion mynediad

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. Mae diddordeb brwd mewn Atgyweirio Modurol a pharodrwydd i ddysgu yn hanfodol. Bydd angen Esgidiau Diogelwch ac Oferôls ar gyfer sesiynau gweithdy. Bydd pob PPE hanfodol arall yn cael ei ddarparu.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

16 Medi 2024

Dyddiad gorffen

25 Tachwedd 2024

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

MVCCEP04
EL3

Cymhwyster

CAVC Certificate

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

18,000

Mae gan Gymru tua 8% o ddiwydiant gweithgynhyrchu modurol y DU ac mae ganddi weithlu medrus o 18,000 o bobl a throsiant blynyddol o £3 biliwn.

Gallai camau nesaf gynnwys astudio cyrsiau lefel 1 neu lefel 2 yn llawn amser.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE