Bydd y cwrs diploma blwyddyn o hir hwn yn eich cyflwyno i ymarferion, sgiliau a thechnegau Dylunio Ffasiwn a Thecstilau.
Byddwch yn cael y cyfle i weithio â phrosiectau diddorol ac amrywiol, ac ar yr un pryd yn cael dealltwriaeth wirioneddol o’r pwnc.
Byddwch yn arbrofi gyda’ch syniadau, edrych ar waith artistiaid a dylunwyr eraill ac adeiladu portffolio creadigol.
Cewch y cyfle i ddatblygu eich sgiliau a hunanhyder mewn amgylchfyd aeddfed, cyfeillgar a diogel.
Mae’r cwrs yn eang ac yn eich galluogi i brofi amrywiaeth o ddisgyblaethau celf a dylunio, ac eich helpu i symud yn eich blaen i un o’n cyrsiau Lefel 3 yn y sector Diwydiannau Creadigol.
Darperir unedau arbenigol chi â sgiliau sylfaenol a chreadigol mewn Ffasiwn a Thecstilau, Ymchwilio amrywiaeth o artistiaid, gwaith 2D a 3D, dylunio arwyneb, darlunio, paentio a chreu printiau.
Cewch y cyfle i weithio ar brosiect personol ac arddangos eich sgiliau rydych newydd ddatblygu yn y pwnc.
• Darlunio
• Gwneud Printiau
• Dylunio tecstilau
• Dylunio Ffasiwn
• Technegau Gwnïo a Gwneuthuriad
Er bod y cwrs yn rhedeg ochr yn ochr â chymwysterau Saesneg a Mathemateg berthnasol, byddwch yn gweithio â phrosiectau sy’n berthnasol yn alwedigaethol i gynorthwyo i ddatblygu a deall iaith a Mathemateg gyd-destunol o fewn y pwnc ar lefel diwydiant.
Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau cyflwyno, cyfathrebu a threfnu personol. Mae cyfleoedd profiad gwaith ar gael.
Asesir a gwirir prosiectau 1 a 2 y Dyfarniad Lefel 2 mewn Celf a Dylunio yn fewnol drwy bortffolios myfyrwyr o dystiolaeth ac yn amodol ar sicrwydd ansawdd allanol Corff Dyfarnu UAL.
Bydd prosiect 3 y Diploma Lefel 2 mewn Celf a Dylunio yn cael ei asesu’n fewnol ac yn cael ei safoni’n fewnol ac yn allanol yn erbyn meini prawf asesiad yr unedau hynny.
Mae gan y coleg stiwdios Celf a Dylunio a gweithdai helaeth i gefnogi eich astudiaethau. Mae hyn yn cynnwys:
Gweithdy Ffasiwn a Thecstilau:
• Amrywiaeth eang o ddeunyddiau ar gael, yn cynnwys ffabrigau, blociau patrwm, cyfarpar gwneuthuriad h.y. nodwyddau, edau, pinnau, ayyb.
• Cyfarpar gweithgynhyrchu yn cynnwys peiriannau gwnïo, peiriannau brodwaith, gwasgfa gwres, torrwr laser ac argraffydd 3D.
Ystafell Argraffu:
• Mynediad at gyfarpar argraffu arbenigol.
• Cyfleusterau argraffu digidol
Stiwdios Ffotograffiaeth:
• Ardaloedd Cefndir Ffotograffiaeth
• Cyfleusterau Ystafell Dywyll
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus fynd yn eu blaen i un o’r cyrsiau Lefel 3 Celf a Dylunio perthnasol, megis:
• Dylunio Ffasiwn Lefel 3 UAL
• Ffotograffiaeth Lefel 3 BTEC
• Dylunio Cynnyrch (3D) Lefel 3 BTEC
• Celf a Dylunio Lefel 3 BTEC
• UAL Celfyddydau, Animeiddiad a Chyfathrebu Digidol Lefel 3
Dros fy nwy flynedd yn Coleg Caerdydd a’r Fro, mae fy nhiwtoriaid wedi rhoi adborth adeiladol i mi sydd wedi fy ngalluogi i dyfu yn fy siwrnai greadigol.