Mae’r UAL Lefel 3 BTEC mewn Ffasiwn yn berffaith ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y diwydiant ffasiwn. Mae'r cwrs yn cynnig mewnwelediad i wahanol agweddau o ffasiwn a thecstilau. Gyda chefnogaeth athrawon arbenigol, cewch eich tywys drwy ystod o wahanol destunau ar y cwrs a fydd o gymorth i gynhyrchu a datblygu'r sgiliau sylfaenol i ddatblygu eich ymarfer creadigol.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys:
- Astudiaethau cyd-destunol ac ymchwil i ddylunio ffasiwn
- Llunio arsylwadol, darlunio ffasiwn a braslunio dyluniadau
- Triniaeth ddigidol a chyfryngau cymysg 2D a 3D
- Archwilio tecstilau a ffasiwn, gan gynnwys trin ffabrig, printio, torri patrwm, gorchuddio, a chreu dillad
- Cyfathrebu ffasiwn, ffotograffiaeth, steilio ffasiwn a marchnata gweledol
Bydd myfyrwyr hefyd yn elwa ar:
- Brofiad ymarferol drwy brosiectau ‘Byw’ cysylltiedig â’r diwydiant
- Y cyfle i ddefnyddio cyfleusterau arbenigol yng Nghampws y Ddinas i gefnogi datblygiad portffolio creadigol
- Cyfleoedd i gydweithio â dylunwyr, artistiaid a busnesau lleol ar gyfer prosiectau byd go iawn
- Anogaeth i gymryd rhan mewn cystadlaethau er mwyn cyfoethogi dealltwriaeth o’r diwydiant ffasiwn
- Ymweliadau i arddangosfeydd a sioeau ffasiwn perthnasol i gyfoethogi ac atgyfnerthu portffolios.
Ochr yn ochr â hyn, bydd dysgwyr yn astudio Bagloriaeth Cymru fel rhan annatod o’r rhaglen. Mae hyn yn cynnwys sesiynau tiwtorial ac e-diwtorial wythnosol.
Ffioedd Stiwdio: £65.00
5 TGAU Gradd A* - C neu Ddiploma Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon ar radd Llwyddo neu uwch. Mae TGAU Saesneg Iaith a Mathemateg yn ofyniad gorfodol ar gyfer y cwrs (os oes gennych gymhwyster lefel 2 ai peidio). Bydd gofyn i chi ddarparu portffolio o waith yn ystod eich cyfweliad.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dros fy nwy flynedd yma, mae fy nhiwtoriaid wedi rhoi adborth adeiladol i mi sydd wedi fy ngalluogi i dyfu yn fy siwrnai greadigol.
Yn dilyn cwblhau'r cwrs diploma blwyddyn o hyd (sy’n gyfwerth â 1.5 Safon Uwch) yn llwyddiannus, cewch gyfle i fynd yn eich blaen ar y cwrs Diploma Estynedig blwyddyn o hyd.
Ar ôl cwblhau'r ddwy flynedd lawn, mae'r cwrs yn gyfwerth â 3 Safon Uwch, a gall roi digon o bwyntiau UCAS i fynd ymlaen i'r Brifysgol.