Ffotograffiaeth Ddigidol

L2 Lefel 2
Rhan Amser
6 Medi 2024 — 20 Rhagfyr 2024
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Bwriad y cwrs yw bodloni anghenion oedolion sy’n ddysgwyr sydd â diddordeb mewn datblygu ymhellach eu sgiliau ffotograffiaeth a’u dealltwriaeth o’r grefft. 
Yn gweithio gydag arbenigwr ffotograffiaeth, bydd y cwrs yn addas i unrhyw un sydd yn dymuno cael  cyflwyniad ar dynnu, golygu a storio lluniau.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

  • Tynnu lluniau efo camera digidol 
  • Golygu lluniau, gan gynnwys cyfansoddiad 
  • Storio lluniau
  • Byddwch chi’n dysgu sut i addasu’r botymau rheoli ar gamera digidol i dynnu lluniau amryw o wrthrychau 
  • Cynhyrchu lluniau yn ymwneud â thema
  • Gwerthuso lluniau

Asesiad mewnol (100% e-bortffolio).

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £15.00

Gofynion mynediad

Diddordeb mewn ffotograffiaeth a dealltwriaeth sylfaenol o hanfodion ffotograffiaeth a defnyddio camerâu a/neu  yn ddelfrydol, wedi cwblhau Cyflwyniad i Ffotograffiaeth Ddigidol ar Lefel 1.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

6 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Rhagfyr 2024

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

2 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

GELL2E01
L2

Cymhwyster

KJ12CY049 Agored Cymru Digital Photography

Mwy...

Fideos

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE