Mae ein diploma BTEC 540 a'n diploma estynedig mewn Dylunio Amlgyfrwng (Cyfrwng Rhyngweithiol) yn gyfle gwych i symud ymlaen i'r sector creadigol. Mae hwn yn gwrs dwy flynedd o hyd a byddwch yn cyflawni dau gymhwyster yn ystod y cyfnod hwn. Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, byddwch yn derbyn Diploma 540, ac ar ddiwedd yr ail flwyddyn byddwch yn cyflawni diploma estynedig llawn. Dylai hyn roi mwy na digon o bwyntiau UCAS i chi, os byddwch yn penderfynu mynd ymlaen at Addysg Uwch. Rydym wedi'n lleoli ar gampws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, ac mae’r rhaglen hon yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr ddysgu amrywiaeth o ddulliau dylunio Amlgyfrwng, yn ogystal â mynd i'r afael â rhai elfennau o ddylunio graffeg. Bydd dysgwyr yn gallu datblygu amrywiaeth o sgiliau sy'n ymwneud â'r maes sydd o ddiddordeb iddynt, yn ogystal â'u gallu creadigol. Mae Amlgyfrwng / Cyfrwng Rhyngweithiol yn un o'r meysydd sy'n datblygu fwyaf. Mae'n cynnwys pynciau megis Ffilmio, golygu fideos, animeiddio, effeithiau arbennig fideo, dylunio gwefan ac apiau yn ogystal â disgyblaethau eraill sy'n ymwneud â dylunio.
Mae'r prosiectau a ddewisir yn ofalus yn eich galluogi chi i ymateb yn greadigol i friffiau dylunio, a chael blas ar feysydd arbenigol, megis:
Prosiect 1 A1 - Hyfforddiant swyddogaethau
Prosiect 2 A2 - Dylunio Profiad Defnyddiwr/ Rhyngwyneb Defnyddiwr
Prosiect 3 B1 - Datblygiad Personol (Amrywiaeth o ddisgyblaethau mewn un prosiect, llunio portffolio Ar-lein, animeiddio, effeithiau arbennig fideo ac ati).
Prosiect 4 B2 - Prosiect Mawr Olaf (Prosiect a arweinir gan y myfyriwr).
Bydd myfyrwyr yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau, gan roi cyfle iddynt ddatblygu llu o sgiliau sylfaenol o ran defnyddio meddalwedd, megis Adobe After Effects, XD (meddalwedd adeiladu apiau), Photoshop, Illustrator, Premiere, Audition, Garage Band, Animate ac yn y blaen. Yn ystod y ddwy flynedd, byddwch yn cwblhau pedair uned. Gellir llunio'r unedau hyn o brosiectau cryno, llai. Er enghraifft, uned yn ymwneud ag animeiddio. Mae gan yr adran amrywiaeth eang o gyfleusterau ac offer cyfrifiadurol. Ni does angen gwybodaeth flaenorol arnoch am unrhyw feddalwedd, er y byddai hynny'n fanteisiol.
Ffioedd Stiwdio: £65.00
5 TGAU A* - C gan gynnwys Saesneg Iaith neu Fathemateg, neu Ddiploma Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon ar radd Llwyddo neu uwch. Rhaid ichi fynychu cyfweliad.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Roedd y dysgu’n wych ac roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi’n dda iawn. Roedd yna diwtora un i un ar gael bob amser ac roeddwn wir angen hynny pan oeddwn yn teimlo’n ddihyder. Roedd cyfleusterau’r coleg yn rhagorol, bob blwyddyn roedd gennym dechnoleg ac offer newydd y gallem eu harchwilio, ac roeddwn i’n teimlo bod fy sgiliau wir yn datblygu trwy hynny.
Ar ôl gorffen y cwrs hwn, gallwch fynd ymlaen i'r Brifysgol. Mynd ymlaen i weithio yn y diwydiant ym maes Animeiddio, Graffeg Symudiad, Dylunio Profiad Defnyddiwr/ Rhyngwyneb Defnyddiwr, Ffilm, Ôl-gynhyrchu Ffilm, Modelu 3D, Gwefan, Dylunio Gemau, Artist Effeithiau Arbennig Gweledol.