od ein Diploma mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol yw rhoi dealltwriaeth dda i ddysgwyr o'r ffordd mae'r pynciau creadigol yn gweithio yn y diwydiant. Mae'r cwrs hwn wedi'i leoli ar Gampws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd ac yn cael ei asesu'n barhaus. Er bod y cwrs yn cynnwys gwaith ymarferol, mae gofyn i fyfyrwyr wneud gwaith ymchwil a gwaith ysgrifenedig hefyd.
Bydd hefyd cyfle i ddysgwyr ennill Sgiliau Hanfodol mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, a Chymhwyso Rhif.
Mae'r cwrs yn cynnwys 8 uned a gyflwynir fel prosiectau. Mae'r prif brosiectau wedi'u rhannu yn ôl y pynciau Cyfryngau Rhyngweithiol, Cyfathrebu Sain a Chyfathrebu Gweledol. Llwyddo neu fethu yw'r graddau a roddir am y rhain. Prosiect unigol yw'r uned olaf, sef uned 8. Yn yr uned hon byddwch yn cael dewis eich pwnc eich hun i ganolbwyntio arno. Gallai fod yn ffilm fer, podlediad, gwefan neu brosiect ffotograffiaeth. Bydd y radd am yr uned hon yn rhoi ichi eich gradd gyffredinol ar gyfer y flwyddyn.
Ffioedd Stiwdio: £65.00
4 TGAU Graddau A* i D gan gynnwys Saesneg Iaith neu Fathemateg neu gymhwyster Lefel 1 yn y maes hwn. Rhaid i chi ddod i gyfweliad. Rhaid i chi ailsefyll TGAU Saesneg Iaith neu Fathemateg os Gradd D neu is.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Wedi cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus ddewis parhau i’r Diploma Cenedlaethol mewn Cynhyrchu Cyfryngau a Ffilm, neu gwrs Lefel 3 arall yn y coleg. Bydd nifer o fyfyrwyr hefyd yn archwilio amrywiol gyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant creadigol.