Mae hwn yn gymhwyster wedi’i achredu gan UAL. Mae wedi’i ddylunio ar gyfer dysgwyr sy’n bwriadu sefydlu prosiect, cwmni, neu swydd lawrydd ei hunain.
Byddwch yn gweithio ar friffiau prosiect wrth ganolbwyntio ar eich datblygiad proffesiynol personol. Byddwch yn datblygu sgiliau cydweithio a rhwydweithio i baratoi at eich gwaith llawrydd neu yrfa hunangyflogedig.
Bydd angen ichi reoli eich hunan ac ymgysylltu â chleientiaid allanol a phobl yn y diwydiant.
Cynhelir y cwrs dros dri diwrnod yr wythnos (Medi - Mehefin), gan gynnig hyblygrwydd ichi weithio ochr yn ochr â’ch maes diddordeb.
Hwb Digidol
• Cyfrifiaduron Mac / PC
• Argraffwyr lliw ac argraffwyr du a gwyn
• Cyfres Adobe/Avid
Mynediad at Stiwdios (ar gais)
• Ffotograffiaeth/Ffilm/Celf
• Argraffwyr 3D
• Torwyr laser
• Gweithdy cerameg a phren
• Meinciau gemwaith
• Peiriannau gwnïo a throsglymwyr
Uned 1: Yr Entrepreneur Creadigol
Mae’r uned hon yn cyflwyno’r myfyriwr i’r sgiliau menter sy’n angenrheidiol ar gyfer dechrau menter busnes creadigol neu i ddod yn ymarferydd llawrydd.
Uned 2: Yr Ymarferydd Creadigol
Bydd yr uned hon yn rhoi’r cyfle i’r myfyriwr ddiffinio ei uchelgeisiau menter drwy ddarparu’r amser a’r lle angenrheidiol i ymchwilio a datblygu ei syniadau creadigol.
Uned 3: Yr Entrepreneur Creadigol
Mae’r uned hon yn gofyn i’r myfyriwr ddatblygu, ffurfioli a chyflwyno cynllun busnes ar gyfer menter greadigol gynaliadwy.
5 TGAU Gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. 1x Safon Uwch gradd neu gymhwyster Lefel 3 cyfatebol. Bydd ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyfweliad i drafod eu prosiect menter greadigol personol. Rhaid i chi fod yn 18+ oed.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Cyflogaeth/Hunangyflogaeth
Gall myfyrwyr sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn sefydlu cwmni eu hunain, cael gwaith llawrydd, neu fynd ymlaen i gyflogaeth yn syth.
Addysg Uwch
Bydd y cymhwyster yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu portffolio o waith, yn eu galluogi i symud ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch.