Bydd y Dyfarniad a Diploma Lefel 2 UAL mewn Celf a Dylunio hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes celf a dylunio. Cewch archwilio ystod eang o dechnegau cyfryngau a dylunio gan gynnwys dylunio 3D, cerameg, tecstilau, cyfathrebiadau graffig, gwneud printiau a phaentio.
Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn mynd ymlaen i astudio un o’r cyrsiau celf a dylunio Lefel 3 sy’n cael eu cynnig gan y Coleg. Gall cwblhau cwrs Lefel 3 yn llwyddiannus eich caniatáu i fynd ymlaen i brifysgol.
Disgwylir i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o bortffolio Celf a Dylunio yn y cyfweliad.
Yn ystod y cwrs byddwch yn astudio 4 prosiect o dan y themâu:
1. Yr Elfennau Ffurfiol mewn Celf a Dylunio
2. Bywyd Llonydd: Golau a Mesur
3. Dylunio a Gwneud: Celf 2D, Dylunio 3D ac Animeiddio at ddiben
4. Prosiect Mawr Terfynol Personol
Bydd y pynciau dan sylw yn cynnwys:
• Tynnu llun
• Dylunio 3D
• Cerameg
• Tecstilau
• Cyfathrebu Graffig
• Gwneud Printiau
• Paentio
• Astudiaethau Cyd-destunol
• Portffolio Digidol yn Teams ar gyfer pob Prosiect
• Sgiliau hanfodol - Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a TGCh
Ffioedd Stiwdio: £65.00
4 TGAU A* - D yn cynnwys pwnc cysylltiedig â Chelf, Saesneg Iaith a Mathemateg.
NEU
Cymhwyster Lefel 1 mewn Celf a Dylunio i gynnwys Saesneg a Mathemateg, gradd D neu uwch.
Disgwylir i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o bortffolio Celf a Dylunio yn y cyfweliad.
Rhaid i chi ddangos Portffolio ac efallai y gofynnir i chi fynd i gyfweliad.
Rhaid i chi ail-sefyll eich TGAU Iaith Saesneg neu Fathemateg os oes gennych radd D os ydych am symud ymlaen i gymwysterau Lefel 3.
Disgwylir i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o Bortffolio Celf a Dylunio gydag amrywiaeth o ddarluniau i’r safon ofynnol i gael lle ar y cwrs Lefel 2.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Wedi cwblhau'r cwrs hwn, bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus y dewis o fynd ymlaen i Ddiploma Lefel 3 mewn Celf a Dylunio. Mae nifer o fyfyrwyr hefyd yn mynd ar drywydd cyfleoedd prentisiaeth yn y diwydiant.