Nod y cwrs yw datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch dealltwriaeth o weithio’n greadigol gydag amrywiaeth o dechnegau ffeltio 2D a 3D. Bydd y cwrs yn galluogi dysgwyr i ymchwilio, deall ac arbrofi gyda ffeltio gwlyb, cryfhau, adeiladu, ffeltio â nodwydd, ffeltio 3D â nodwydd a datblygiad ffurfiau ffeltio 3D.
Byddwch yn gallu archwilio a defnyddio deunyddiau a phrosesau ffeltio. Byddwch yn adeiladu portffolio o waith celf arbrofol a chreadigol ac yn cynhyrchu gwaith terfynol o’ch dewis ar ffurf 2D/3D, gan ddefnyddio’r technegau a phrosesau a archwiliwyd yn ystod y cwrs ffeltio.
Bydd y cwrs yn cwmpasu:
Mae gan y coleg weithdai Celf a Dylunio a chyfleusterau cyfrifiadur helaeth. Lleolir y cwrs yn yr ystafelloedd Ffasiwn a Thecstilau sydd wedi’u cyfarparu’n llawn gyda'r offer tecstilau a fydd eu hangen arnoch ar gyfer y cwrs hwn. Mae lleoedd arbenigol eraill yn cynnwys Celf Gain, Serameg a Gwneud Printiau.
Ffi Cofrestru: £10.00
Ffi Cwrs: £65.00
Nid oes angen i ymgeiswyr fod ag unrhyw brofiad blaenorol gyda thecstilau na chelf a dylunio.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gallai dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus symud ymlaen i gyrsiau rhan amser sy’n cynnwys: Celf, Crefft a Dylunio Lefel 2, Modelu Digidol a Ffabrigo Lefel 3. Gallai dysgwyr hefyd ystyried symud ymlaen i’n cyrsiau llawn amser: