Nod y cwrs yw datblygu eich gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o dechnegau tecstilau creadigol y gallwch eu defnyddio i greu eich Arteffact Tecstilau eich hun. Ar y cwrs hwn byddwch yn cael eich cyflwyno i ddetholiad o dechnegau tecstilau, yn ennill gwybodaeth dechnegol ac yn datblygu hyder wrth ddefnyddio offer tecstilau arbenigol, gan gynnwys peiriant gwnïo.
Byddwch yn datblygu ymarfer llyfr braslunio sy'n cynnwys lluniadu a chreu portffolio o samplau tecstilau, cyn rhoi eich sgiliau newydd ar waith i greu eich Arteffact. Yn ogystal, byddwch yn dysgu am hanes arteffactau tecstilau a chelf ffibr ar y cwrs hwn, i helpu i ysbrydoli eich arbrofi a’ch gwaith.
Dyma rai o’r technegau tecstilau y byddwch yn eu dysgu ar y cwrs hwn: brodwaith â llaw, brodwaith rhydd â pheiriant a gwehyddu â llaw. Bydd disgwyl i chi ddefnyddio un neu fwy o'r rhain wrth greu eich Arteffact Tecstilau terfynol. Os ydych wedi arfer defnyddio technegau tecstilau neu gelf eraill, fe’ch anogir i gynnwys y rhain hefyd!
Mae gan Goleg Caerdydd a’r Fro weithdai Celf a Dylunio arbenigol a chyfleusterau cyfrifiadurol. Lleolir y cwrs yn yr ystafell Ffasiwn a Thecstilau sydd wedi’i chyfarparu’n llawn gyda'r offer tecstilau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y cwrs hwn. Mae lleoedd arbenigol eraill yn cynnwys Celf Gain, Serameg a Gwneud Printiau.
Ffi Arholiad : £20.00
Ffi Cofrestru: £10.00
Ffi Cwrs: £50.00
Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb brwd mewn celf, tecstilau neu grefftau, a dylent fod â chymhelliant i ddysgu sgiliau newydd, yn ogystal ag arbrofi gyda’u gwaith. Nid oes angen cymwysterau, portffolio na phrofiad blaenorol gyda thecstilau.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Roedd y cyrsiau rhan-amser a astudiais i gyd yn ddiddorol iawn ac roedd yr athrawon yn grêt. Maen nhw'n amyneddgar iawn ac yn hynod o wybodus am eu pynciau. Mae gwneud y cwrs wedi rhoi llawer o hyder i mi ac wedi datblygu fy sgiliau.
Gallai dysgwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus ystyried edrych ar ein cyrsiau Rhan-Amser eraill gyda'r nos sy'n rhedeg drwy gydol y flwyddyn academaidd. Gallai dysgwyr hefyd ystyried symud ymlaen i’n Cwrs Sylfaen Celf a Dylunio Llawn Amser a gynhelir yn Academi Greadigol CCAF.