Celf, Crefft a Dylunio (3D)

L2 Lefel 2
Rhan Amser
3 Tachwedd 2026 — 24 Tachwedd 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Bwriad y cwrs 4 wythnos hwn yw cyflwyno dysgwyr i weithio’n ddiogel ac yn greadigol gydag amrywiaeth o ddeunyddiau, technegau a phrosesau celf. Bydd dysgwyr yn edrych ar ffyrdd gwahanol o greu gwaith celf 3D, a hynny wrth ddatblygu sgiliau darlunio, arbrofi â serameg a phrosesau papier-mâché a gweithio gyda chyfryngau cymysg.

Bydd gweithdai wythnosol yn rhan o’r cwrs lle y bydd dysgwyr yn edrych ar y technegau hyn ac yn eu defnyddio mewn gweithgareddau ymarferol.

Yn ystod y cwrs i gyd, bydd dysgwyr yn creu a datblygu gwaith celf 3D yn defnyddio’r deunyddiau, y technegau a’r prosesau sy’n cael eu cyflwyno yn y sesiynau Celf, Crefft a Dylunio.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r cwrs yn cwmpasu deilliannau dysgu amrywiaeth o bynciau:

  • Yn gallu ymchwilio i ddeunyddiau i’w defnyddio mewn gwaith celf 3D.
  • Yn gallu ymchwilio i brosesau i’w defnyddio mewn gwaith celf 3D.
  • Yn gallu syntheseiddio deunyddiau a phrosesau mewn gwaith celf 3D.

Byddwch yn dogfennu eich gwaith ar gyfer pob gweithdy mewn llyfr braslunio A4.

Cyfleusterau

Mae gan y coleg weithdai Celf a Dylunio a chyfleusterau cyfrifiadur helaeth.  Mae mannau Celf Arbenigol yn cynnwys Celf Gain, Serameg, Gwneud Printiau a Ffasiwn a Thecstilau.

Hefyd, Ffabrigo Digidol yn cynnwys argraffwyr 3D, torwyr laser, peiriannau CNC, torwyr finyl a brodwaith digidol.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £20.00

Ffi Cofrestru: £10.00

Ffi Cwrs: £50.00

Gofynion mynediad

Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb brwd mewn Celf, Crefft a dylunio a chael eu hysgogi i ddysgu. Dim angen cymwysterau na phortffolio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Tachwedd 2026

Dyddiad gorffen

24 Tachwedd 2026

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

2.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CDCC2P10
L2

Cymhwyster

Art, Craft and Design (3D)

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

56,000

Y diwydiannau Creadigol yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf, gyda 56,000 o bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru.

Gallai dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus symud ymlaen un ai i’n Cyrsiau Rhan-amser:

  • Celf, Crefft a Dylunio (2D) Lefel 2
  • Ffabrigo a Modelu Digidol Lefel 2
  • Gweithgynhyrchu Haen-Ar-Haen (Argraffu 3D) Lefel 3 
  • Dylunio Graffeg ar gyfer Cynnyrch Argraffedig Lefel 3
  • Celf Tecstilau Lefel 2

neu Gyrsiau Llawn Amser:

  • Cyfryngau Cymysg Lefel 2
  • Celf a Dylunio Lefel 3
  • Celf a Dylunio Sylfaen 
  • Dylunio Ffasiwn Lefel 3
  • Dylunio Graffeg Lefel 3
  • Dylunio Cynnyrch Lefel 3

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE