Bwriad y cwrs 4 wythnos hwn yw cyflwyno dysgwyr i weithio’n ddiogel ac yn greadigol gydag amrywiaeth o ddeunyddiau, technegau a phrosesau celf. Bydd dysgwyr yn edrych ar ffyrdd gwahanol o greu gwaith celf 2D, a hynny wrth ddatblygu sgiliau darlunio, arbrofi â phrosesau creu printiau a gweithio gyda chyfryngau cymysg.
Bydd gweithdai wythnosol yn rhan o’r cwrs lle y bydd dysgwyr yn edrych ar y technegau hyn ac yn eu defnyddio mewn gweithgareddau ymarferol. Yn ystod y cwrs i gyd, bydd dysgwyr yn creu a datblygu gwaith celf 2D yn defnyddio’r deunyddiau, y technegau a’r prosesau sy’n cael eu cyflwyno yn y sesiynau Celf, Crefft a Dylunio.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, gall dysgwyr ymrestru ar y cwrs nesaf: Celf, Crefft a Dylunio (3D).
Mae’r cwrs yn cwmpasu deilliannau dysgu amrywiaeth o bynciau:
Byddwch yn dogfennu eich gwaith ar gyfer pob gweithdy mewn llyfr braslunio A4.
Mae gan y coleg weithdai Celf a Dylunio a chyfleusterau cyfrifiadur helaeth. Mae mannau Celf Arbenigol yn cynnwys Celf Gain, Serameg, Gwneud Printiau a Ffasiwn a Thecstilau.
Hefyd, Ffabrigo Digidol yn cynnwys argraffwyr 3D, torwyr laser, peiriannau CNC, torwyr finyl a brodwaith digidol.
Ffi Arholiad : £20.00
Ffi Cofrestru: £10.00
Ffi Cwrs: £50.00
Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb brwd mewn Celf, Crefft a dylunio a chael eu hysgogi i ddysgu. Dim angen cymwysterau na phortffolio.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Roedd y cyrsiau rhan-amser a astudiais i gyd yn ddiddorol iawn ac roedd yr athrawon yn grêt. Maen nhw'n amyneddgar iawn ac yn hynod o wybodus am eu pynciau. Mae gwneud y cwrs wedi rhoi llawer o hyder i mi ac wedi datblygu fy sgiliau.
Gallai dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus symud ymlaen un ai i’n Cyrsiau Rhan-amser:
neu Gyrsiau Llawn Amser: