Cymdeithaseg yw’r astudiaeth o gymdeithas a sut mae’n dylanwadu arnom i fod y bobl rydyn ni. I gymdeithasegwyr, mae ymddygiad dynol yn rhy gymhleth ac amrywiol i’w esbonio yn nhermau biolegol neu eneteg syml, ac mae cymdeithaseg fel pwnc yn gweld ein gweithrediadau fel canlyniad i’n hamgylchedd cymdeithasol a diwylliannol. Rydym yn dysgu i feddwl ac ymddwyn mewn ffyrdd penodol, ac ein diwylliant sy’n ein dysgu sut y dylem feddwl ac ymddwyn. Y ddealltwriaeth hon ynghylch y cysylltiad rhwng diwylliant ac ymddygiad dynol sydd wrth wraidd cymdeithaseg.
Mae’r Llwybr Carlam Lefel A Cymdeithaseg yn cyfuno Rhaglen UG a Safon Uwch i gwrs astudio blwyddyn a ddylai gael ei ddilyn ochr yn ochr â dau neu dri phwnc arall, a Bagloriaeth Cymru.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn ymdrin â’r pedair adran ganlynol:
UG Uned 1: Dysgu Diwylliant
UG Uned 2: Deall Cymdeithaseg a Dulliau Ymchwilio Cymdeithaseg
Safon Uwch Uned 3: Pŵer a Rheolaeth
Safon Uwch Uned 4: Anghydraddoldeb Cymdeithaseg a Dulliau Cymhwysol Ymchwiliadau Cymdeithaseg
Byddwch yn ymgymryd ag arholiad ysgrifenedig ar gyfer bob modiwl.
Gofynion Mynediad Pynciau Unigol
Isafbwynt Iaith Saesneg: A
Isafbynt Cymdeithaseg/Hanes/Seicoleg/Daearyddiaeth: B
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.