Ffotograffiaeth - UG

L3 Lefel 3
Rhan Amser
1 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynglŷn â'r cwrs

Cwrs lefel ganolradd yw Ffotograffiaeth UG sy’n addas ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn pynciau creadigol a ffotograffiaeth sy’n seiliedig ar gelf. Bydd dysgwyr angen lefel sylfaenol o lythrennedd cyfrifiadurol gan y byddwch yn creu portffolio digidol. Bydd myfyrwyr yn arbrofi gydag ystod o arddulliau gan gynnwys ffotograffiaeth tirwedd a phortread, gan arwain at gynhyrchu prosiect unigol. Mae'r cwrs yn cynnwys tasgau ymchwil artist, damcaniaeth a dadansoddi delweddau. Cefnogir gwaith ymarferol gyda nodiadau ysgrifenedig i egluro eich syniadau a’ch prosesau. Mae'r cwrs yn cynnwys cyflwyniad i feddalwedd golygu Adobe Photoshop & Lightroom, a fydd yn cael ei ddefnyddio i arbrofi gyda delweddau digidol. Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i archwilio technegau creadigol eraill, fel collage i greu gwaith celf gwreiddiol a gwaith seiliedig ar lens personol.  

Nid oes angen i fyfyrwyr feddu ar wybodaeth ffotograffig flaenorol ond rhaid iddynt allu tynnu llawer o luniau drwy gydol y cwrs yn eu hamser eu hunain. 

Beth fyddwch yn ei astudio?

  • Cyfansoddiad
  • Golygu Photoshop
  • Golygu Lightroom
  • Dadansoddi Delweddau
  • Ymchwil Artist
  • Ffotograffiaeth Tirwedd
  • Ffotograffiaeth Portread
  • Datblygu Syniadau Creadigol
  • Technegau arbrofol

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £60.00

Ffi Cofrestru: £45.00

Ffi Cwrs: £473.00

Gofynion mynediad

Isafswm o 5 TGAU Graddau A* i C gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg. Cyfweliad. Efallai y bydd pynciau unigol yn gofyn am raddau uwch. Efallai y caiff dysgwyr aeddfed heb y cymwysterau hyn eu derbyn ar ôl cyfweliad gyda thiwtor y pwnc.

Amseroedd cwrs

17:45 - 20:45 ar ddydd Mercher.

Addysgu ac Asesu

Mae’r cwrs yn cael ei asesu ar sail cynhyrchiad o bortffolio digidol a gwaith ffotograffig. 

Cyflwynir gwaith cwrs ym mis Mai.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

ASCC3E06
L3

Cymhwyster

Photography - AS

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.

Kuba Lewandowski
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Celf
  • Animeiddio
  • Busnes a Rheoli
  • Dylunio Graffeg
  • Astudiaethau Cyfryngau
  • Ffotograffiaeth

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE