Mae'r rhaglen Ffotograffiaeth A2 yn ddilyniant i Ffotograffiaeth AS a dylid ymgymryd â hi ochr yn ochr â dau neu dri phwnc arall a Baglor Cymru.
Wedi'i leoli ar ein Campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, gall dysgwyr ymgymryd â'r cymhwyster hwn fel myfyrwyr rhan-amser.
Uned 2: Portffolio Gwaith Cwrs
Cewch eich annog i ddatblygu meysydd o ddiddordeb personol yn yr uned hon, gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddeunyddiau a phrosesau. Gall hyn gynnwys cyfrwng digidol, ffilm 35mm neu unrhyw gyfrwng arall yn seiliedig ar lens. Gall themâu gynnwys ffasiwn, bywyd llonydd mewn stiwdio, tirluniau, dogfennol, celf gain neu bortreadaeth. Caiff yr holl waith datblygol ymarferol eu dangos mewn llyfr gwaith ymchwil neu lyfrau gwaith digidol, gan gynnwys dylanwadau cyd-destunol priodol eraill, gwybodaeth ynglŷn ag ymweliadau ag orielau a dadansoddiad ysgrifenedig.
Asesiad:
Uned 3: Aseiniad Allanol
Caiff themâu'r uned hon eu gosod bob blwyddyn gan y bwrdd arholi. Mae'r gwaith yr archwilir yn yr uned hon yn rhoi cyfleoedd i arbrofi gyda syniadau gweledol. Cewch eich annog i arbrofi gydag amrywiaeth o brosesau a deunyddiau i gynhyrchu delweddau llawn dychymyg a gwreiddiol. Cefnogir yr holl waith ymarferol drwy gynhyrchu llyfr gwaith ymchwil digidol yn siartio datblygiad creadigol a chyd-destunol.
Asesiad:
Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol: